Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu profiad cadarnhaol a champws diogel i bawb. Rydym yn credu nad yw bwlio ac aflonyddu byth yn dderbyniol, ac nid yw'r Brifysgol yn goddef y fath ymddygiad gan aelodau ei chymuned. Beth yw Bwlio ac Aflonyddu?

Os yw rhywun wedi eich bwlio neu aflonyddu arnoch chi, efallai eich bod yn teimlo'n emosiynol, wedi'ch gorlethu a heb wybod beth i'w wneud. Mae effaith bwlio ac aflonyddu yn amrywio, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, e.e. y berthynas rhwng y dioddefwr a'r unigolyn sy'n gwneud y bwlio, yr amgylchedd (e.e. cartref, gwaith, amgylchedd cymdeithasol), y math o ymddygiad a brofir, etc. Mae eich diogelwch a'ch lles yn hollbwysig ac mae cymorth ar gael.

Ydych chi mewn perygl nawr?

Ewch i le diogel - os yw'r ymddygiad newydd ddigwydd, ewch i rywle diogel lle mae pobl eraill, e.e. y llyfrgell ar y campws, siop neu gaffi os yw mewn man cyhoeddus.

Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os ydych chi'n drwm eich clyw, lawrlwythwch yr ap  999 BSL.  

Os ydych chi ar y campws, cysylltwch â Gwasanaethau Diogelwch y Campws drwy ap Safezone, deialu 333 o unrhyw ffôn mewnol neu 01792 513333 ar ffôn symudol.

 

Os nad ydych chi mewn perygl nawr, mae gennych amser i ystyried eich opsiynau.

Does dim ffordd gywir nac anghywir o ymateb, beth bynnag sydd orau i chi sy'n bwysig. Efallai bydd yn helpu i siarad â rhywun; gallech chi siarad â ffrind, aelod o'r teulu, sefydliad proffesiynol, e.e. Cymorth i Ddioddefwyr neu gallech chi gysylltu â staff arbenigol yn y brifysgol drwy'r wefan Adrodd a Chymorth. Mae rhagor o opsiynau isod: -

·Gallwch chi wneud datgeliad ag enw: I gael cymorth gan Ymgynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliad (SDRA) yn y Brifysgol, gallwch wneud datgeliad gan roi eich enw drwy ddefnyddio'r wefan Adrodd a Chymorth. Sut gall SDRA eich cefnogi?

 

·Gallwch wneud datgeliad dienw hefyd drwy'r wefan Adrodd a Chymorth, lle gallwch chi ddatgelu eich profiad heb roi eich enw. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddeall patrymau ymddygiad sy'n effeithio ar ein myfyrwyr. Os ydych chi'n gwneud datgeliad dienw, ni fydd neb yn cysylltu â chi ac ni fydd camau gweithredu ffurfiol yn cael eu cymryd.

 

·Dyma fanylion am gymorth ychwanegol gallwch chi ei ystyried. Cymorth Allanol ar gyfer Bwlio ac Aflonyddu

 

·Cefnogi rhywun sy'n profi bwlio neu aflonyddu

 

Opsiynau Adrodd - Chi sy'n Penderfynu

Nid adroddiad swyddogol yw datgeliad ac ni fydd yn arwain at weithredu ffurfiol. Chi sy'n penderfynu gwneud adroddiad neu beidio. Ni ddylai neb arall wneud y penderfyniad hwnnw i chi, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad.

·Rhoi Gwybod i'r Heddlu: Os yw'r ymddygiad rydych chi wedi'i brofi'n drosedd, gallwch chi roi gwybod i'r heddlu. Dyma Wybodaeth gan Gymorth i Ddioddefwyr - Adrodd i'r heddlu.   

 

·Rhoi Gwybod i Crimesoppers - Gallwch chi roi gwybod i Crimestoppers drwy ffonio: 0800 555 111 neu drwy lenwi ffurflen Crimestoppers ar-lein.

 

·Rhoi gwybod i'r Brifysgol: Os yw'r unigolyn yn aelod o gymuned y Brifysgol (staff neu fyfyriwr) gallwch gyflwyno adroddiad ffurfiol drwy'r polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio. Gall Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr  (SUASC) eich helpu i ysgrifennu eich datganiad.

 

·Rhoi gwybod i ddarparwr cyfryngau cymdeithasol: Os ydych chi'n cael eich bwlio ar-lein, efallai gallwch roi gwybod am y mater i'r sefydliad perthnasol. Bwlio Ar-lein - Darparwyr Cyfryngau Cymdeithasol

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd