Nid system adrodd 24 awr yw hon ac mae ar gyfer datgeliadau nad ydynt yn rhai brys yn unig.
Ydych chi mewn perygl nawr?
Ewch i le diogel - os yw'r ymddygiad newydd ddigwydd, ewch i rywle diogel lle mae pobl eraill, e.e. y llyfrgell ar y campws, siop neu gaffi os yw mewn man cyhoeddus.
Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os ydych chi'n drwm eich clyw, lawrlwythwch yr ap 999 BSL .
Os ydych chi ar y campws, cysylltwch â Gwasanaethau Diogelwch y Campws drwy ap Safezone, neu drwy ddeialu 333 o unrhyw ffôn mewnol neu 01792 513333 ar ffôn symudol.
Gan eich bod chi wedi dewis cyflwyno adroddiad yn ddienw, efallai na fyddwn ni’n gallu’ch helpu chi’n uniongyrchol, ond gallwn ni eich cyfeirio chi at wasanaethau cymorth ac efallai gallwn ni helpu pobl eraill. Bydd yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi’n ein helpu ni i wella ein gwasanaethau e.e. Gwneud gwaith atal sy’n seiliedig ar ffeithiau ar draws y Brifysgol. Fodd bynnag, NI fydd cyflwyno adroddiad yn ddienw’n arwain at gymryd camau gweithredol yn erbyn tramgwyddwyr.
Fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr, gellir rhannu unrhyw wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn â thimau mewnol a phartneriaid allanol os yw'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn buddiannau hanfodol unigolion (e.e. rhannu gwybodaeth â gwasanaethau brys neu dimau mewnol mewn achosion o risg ddifrifol), neu gynnal tasgau er budd y cyhoedd (e.e. cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol, diogelu, neu gefnogi iechyd a diogelwch y cyhoedd).
Yn ogystal, mae ein Polisi Diogelu yn amlinellu y bydd unrhyw bryderon diogelu a honiadau yn cael eu trin yn gyfrinachol. Fodd bynnag, gan y gellir gwahodd y rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r mater i gymryd rhan mewn prosesau diogelu statudol dan arweiniad awdurdodau diogelu, nid oes modd gwarantu cyfrinachedd llwyr.
Dylai'r adroddiad hwn gymryd 5-10 munud i'w gwblhau, yn ddibynnol ar fanylder yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Mae rhai cwestiynau'n ddewisol, gan gynnwys cwestiynau sy’n ymwneud â demograffig. Mae'r rhain yn ein helpu i ddysgu mwy am ble a phryd y mae materion yn digwydd a phwy sydd ynghlwm â nhw, ond os nad ydych chi eisiau ateb y cwestiynau hyn, gallwch symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf.
Mae eich data yn bwysig i ni. Ni fyddwn ni'n casglu nac yn cadw unrhyw wybodaeth sy'n mynd yn groes i'n polisi preifatrwydd.