Nid system adrodd 24 awr yw hon ac mae ar gyfer datgeliadau nad ydynt yn rhai brys yn unig.
Ydych chi mewn perygl nawr?
Ewch i le diogel - os yw'r ymddygiad newydd ddigwydd, ewch i rywle diogel lle mae pobl eraill, e.e. y llyfrgell ar y campws, siop neu gaffi os yw mewn man cyhoeddus.
Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os ydych chi'n drwm eich clyw, lawrlwythwch yr ap 999 BSL .
Os ydych chi ar y campws, cysylltwch â Gwasanaethau Diogelwch y Campws drwy ap Safezone, neu drwy ddeialu 333 o unrhyw ffôn mewnol neu 01792 513333 ar ffôn symudol.
Fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr, gellir rhannu unrhyw wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn â thimau mewnol a phartneriaid allanol os yw'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn buddiannau hanfodol unigolion (e.e. rhannu gwybodaeth â gwasanaethau brys neu dimau mewnol mewn achosion o risg ddifrifol), neu gynnal tasgau er budd y cyhoedd (e.e. cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol, diogelu, neu gefnogi iechyd a diogelwch y cyhoedd).
Yn ogystal, mae ein Polisi Diogelu yn amlinellu y bydd unrhyw bryderon diogelu a honiadau yn cael eu trin yn gyfrinachol. Fodd bynnag, gan y gellir gwahodd y rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r mater i gymryd rhan mewn prosesau diogelu statudol dan arweiniad awdurdodau diogelu, nid oes modd gwarantu cyfrinachedd llwyr.
Dylai'r adroddiad hwn gymryd 5-10 munud i'w gwblhau, yn ddibynnol ar fanylder yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Mae rhai cwestiynau'n ddewisol, gan gynnwys cwestiynau sy’n ymwneud â demograffig. Mae'r rhain yn ein helpu i ddysgu mwy am ble a phryd y mae materion yn digwydd a phwy sydd ynghlwm â nhw, ond os nad ydych chi eisiau ateb y cwestiynau hyn, gallwch symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf.
Mae eich data yn bwysig i ni. Ni fyddwn ni'n casglu nac yn cadw unrhyw wybodaeth sy'n mynd yn groes i'n polisi preifatrwydd.