Os yw bwlio neu aflonyddu wedi effeithio ar rywun rydych chi'n ei adnabod, efallai y byddwch chi'n bryderus am ei gefnogi, yn aml oherwydd eich bod chi'n ofni y byddwch chi'n dweud neu'n gwneud y peth anghywir.
Mae'r dudalen hon yn cynnig awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ddarparu cymorth ystyrlon i'r rhai hynny sydd wedi profi bwlio neu aflonyddu.
Cymerwch yr amser i ddeall beth yw gwir ystyr bwlio a/neu aflonyddu, oherwydd gall hyn eich helpu chi. Beth yw Bwlio ac Aflonyddu?
Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i wneud hynny, ystyriwch siarad â'r person yr effeithiwyd arno. Efallai na fydd eisiau rhannu'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, ond efallai y bydd yn ddiolchgar am y cyfle i drafod y sefyllfa a sut mae wedi effeithio arno.
Mae pobl yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol; efallai y bydd y person yn teimlo'n emosiynol, wedi'i orlethu neu'n ddryslyd ynghylch beth i’w wneud. Mae effaith bwlio ac aflonyddu yn amrywio, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, e.e. y berthynas rhwng y dioddefwr a'r unigolyn sy'n gwneud y bwlio, yr amgylchedd (e.e. cartref, gwaith, amgylchedd cymdeithasol), y math o ymddygiad a brofir, etc. Effaith Bwlio ac Aflonyddu.
Nid oes angen i chi fod yn gwnselydd hyfforddedig er mwyn ymateb yn gefnogol, ond gall eich ymateb i'r hyn y mae rhywun yn ei ddatgelu wneud gwahaniaeth sylweddol o ran pa mor ddiogel y mae'r person yn teimlo ac os yw'n teimlo eich bod chi'n credu'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwrando ar y person, yn ei gredu ac yn ei gefnogi, ond peidiwch byth â rhoi pwysau ar rywun i wneud penderfyniad nad yw’n gyfforddus yn ei wneud.
Gwrandewch - Gwrando yw'r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud.
- Chwiliwch am rywle preifat lle y gallwch siarad, a dywedwch eich bod chi'n falch ei fod yn rhannu ei brofiad â chi.
- Byddwch yn amyneddgar; rhowch ryddid i’r person ddweud cyn lleied neu gymaint ag y mae'n dymuno ei rannu yn ei amser ei hun, heb dorri ar ei draws. Mae siarad am sut y mae'n teimlo yn medru bod yr un mor ddefnyddiol â thrafod manylion yr hyn a ddigwyddodd.
- Dangoswch eich bod chi'n gwrando yn weithredol e.e. drwy nodio eich pen, ei wynebu, eistedd fel y gallwch wneud cyswllt llygad, a'i annog ar lafar e.e. "Rwy'n clywed yr hyn rwyt ti'n ei ddweud".
- Parchwch ei ofod personol. Peidiwch â'i gyffwrdd, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl ei fod eisiau cysur corfforol, peidiwch â gwneud hynny. (Bydd hyn yn dibynnu ar eich perthynas â’r person)
- Cynigwch rywbeth i'w gadw'n gynnes e.e. blanced neu eich côt (mae symptomau sioc yn medru cynnwys teimlo'n oer, crynu ac ysgwyd).
- Os ydych chi'n cymryd nodiadau o'r sgwrs, cofnodwch yr hyn mae'n ei ddweud gair-am-air, er mwyn osgoi camddealltwriaeth. Gallai eich nodiadau gael eu defnyddio mewn ymchwiliad gan yr heddlu os yw'r person yn penderfynu adrodd am y digwyddiad.
·Cofiwch eich rôl. Waeth beth yw'r berthynas rhyngoch, e.e., ffrind gorau, dieithryn, tiwtor personol, rheolwr llinell, cydweithiwr etc., nid chi yw'r heddlu. Peidiwch â holi rhywun yn ddwys neu ofyn am fanylion, oni bai bod ei ddiogelwch mewn perygl a bod angen gwybodaeth arnoch er mwyn ei ddiogelu.
Credwch y person
- Sicrhewch nad ydych chi'n feirniadol
- Byddwch yn gefnogol a rhowch gysur i'r person drwy gydol y sgwrs.
- Defnyddiwch ymadroddion megis: -
"Rwy'n dy gredu di; roeddet ti'n ddewr iawn i ddweud hyn wrthyf".
"Nid dy fai di yw hyn. / Wnest ti ddim byd i haeddu hyn".
“Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. / Rydw i'n poeni amdanat, ac rydw i yma i wrando neu helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf".
Cyfeirio
- Cyfeiriwch y person at Adrodd a Chymorth - Adrodd a Chymorth yw platfform adrodd ar-lein y Brifysgol, lle gall unigolion gyrchu cymorth ac ystyried eu hopsiynau o ran adrodd am ddigwyddiad, a hynny yn eu hamser eu hunain. Nid yw datgelu digwyddiad yn arwain yn syth at gŵyn ffurfiol.
- Gallwch gefnogi rhywun i ddatgelu’r digwyddiad i'r Brifysgol, oherwydd mae'r ffurflen ar-lein yn caniatáu i chi adrodd ar ran rhywun arall.
- Peidiwch byth â rhoi pwysau ar rywun i ddatgelu digwyddiad; hyd yn oed os ydych chi'n credu mai dyma'r peth cywir i’w wneud, rhaid i’r unigolyn wneud y penderfyniad ei hun.
Cymorth Parhaus
- Ni waeth beth mae’n penderfynu ei wneud, cynigwch eich cymorth parhaus.
- Gofynnwch sut mae'r person o bryd i'w gilydd, er mwyn iddo wybod eich bod chi'n poeni am ei les.
- Byddwch yn ymwybodol o'ch adnoddau.Efallai yr hoffech ddarparu cymorth parhaus, ond nid yw hynny'n golygu eich bod mewn sefyllfa i reoli iechyd rhywun arall. Dewch yn gyfarwydd â’r tudalennau Adrodd a Chymorth, fel y gallwch gyfeirio'r unigolyn yn briodol.
Hunanofal
- Mae clywed am ddatgeliad a chefnogi eraill yn medru bod yn anodd ac yn emosiynol.Mae'r cymorth sydd ar gael i'r rhai hynny yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan fwlio ac aflonyddu hefyd ar gael i'r bobl hynny sy'n eu cefnogi nhw. Ni fyddwch chi'n medru cefnogi pobl eraill heb gefnogi eich hun yn gyntaf.