Mae bwlio ac aflonyddu'n niweidio unigolion a'r gymuned ehangach.
Mae Bwlio'n ymddygiad ymosodol, bygythiol, maleisus neu sarhaus sy'n camddefnyddio pŵer ac yn gallu gwneud i berson deimlo'n fregus, yn drist, yn llawn cywilydd, wedi'i danseilio neu ei fygwth. Nid yw pŵer bob amser yn golygu bod mewn rôl awdurdodol ond gall gynnwys grym personol a phŵer i orfodi drwy ofn neu fraw. Gall bwlio gynnwys hyn, er nid yw'n gyfyngedig i:
- weiddi, gwawdio, diraddio neu fod yn goeglyd tuag at eraill
- bygythiadau corffol neu seicolegol
- lefel ormesol a brawychus o oruchwyliaeth
- sylwadau amhriodol a/neu fychanol am rywun
- camddefnyddio awdurdod neu bŵer gan y rhai hynny mewn rolau uwch
- eithrio rhywun o gyfarfodydd neu gyfathrebiadau'n fwriadol heb reswm da
Aflonyddu - ymddygiad dieisiau sy'n gysylltiedig â "nodwedd warchodedig", a diben neu effaith yr ymddygiad hwnnw yw tramgwyddo yn erbyn urddas unigolyn neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus. Gall aflonyddu fod yn gorfforol, yn eiriol neu’n ddi-eiriau a gall fod yn fwriadol neu'n anfwriadol.
Gall aflonyddu gynnwys aflonyddu rhywiol (dolen) neu fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd/mamolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig/cenedlaethol, crefydd/cred, rhyw/tueddfryd rhywiol.
Mae rhai ffurfiau o aflonyddu'n cael eu hystyried yn Drosedd neu’n Achos o Gasineb (dolen) h.y.unrhyw weithred o drais neu elyniaeth yn erbyn person neu eiddo sy'n cael ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn tuag at berson oherwydd nodwedd warchodedig benodol.
Dyma rai enghreifftiau o aflonyddu:
- Ymddygiad corfforol dieisiau neu 'chwarae gwirion', gan gynnwys cyffwrdd, pinsio, pwnsio, gafael, lledgyffwrdd â rhywun, tarfu ar ofod personol rhywun a mathau mwy difrifol o ymosodiad rhywiol neu gorfforol
- Sylwadau ymosodol neu fychanol, ystumiau, jôcs/pranciau ansensitif
- Gwatwar, dynwared, bychanu anabledd person
- Jôcs hiliol, rhywiaethol, homoffobig, oedraniaethol
- Sylwadau enllibus/ystrydebol am grŵp ethnig neu grefyddol neu ryw penodol
- Bygwth dweud bod rhywun yn hoyw, yn lesbiaidd, yn ddeurywiol neu'n draws
- Yn anwybyddu rhywun e.e yn fwriadol drwy ei eithrio o sgwrs neu weithgaredd cymdeithasol.
- Gall hefyd gynnwys trin rhywun yn llai ffafriol gan ei fod wedi ymostwng neu wrthod ymostwng i ymddygiad o'r fath yn y gorffennol.
- Gall person brofi aflonyddu hyd yn oed os nad ef oedd y targed arfaethedig e.e. efallai bydd rhywun yn teimlo ei fod yn cael ei aflonyddu gan jôcs hiliol am grŵp ethnig.
Gall y ddau fod yn bersonol, ar-lein neu drwy ddulliau eraill o gyfathrebu e.e. postiadau yn y cyfryngau cymdeithasol Bwlio Ar-lein - Darparwyr Cyfryngau Cymdeithasol
Gellir cael aflonyddu electronig drwy blatfformau digidol neu dechnoleg gyfathrebu er enghraifft, e-bost, negeseua sydyn, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol (e.e. Instagram, Facebook, TikTok), neu negeseuon testun. Wrth anfon e-byst neu gyfathrebu electronig arall, dylech ystyried y cynnwys, yr iaith a pha mor briodol yw cyfathrebu o'r fath.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng bwlio ac aflonyddu?
Mae bwlio ac aflonyddu'n cynnwys ymddygiad niweidiol, bygythiol, ond ceir gwahaniaethau allweddol:
Ailadrodd yn erbynUn digwyddiad
- Mae bwlio fel arfer yn cynnwys patrwm ymddygiad sy'n cael ei ailadrodd gyda'r nod o fychanu neu niweidio targed penodol.
- Gellir cael aflonyddu gydag un digwyddiad neu weithredoedd niferus ac mae'n cael ei ddiffinio'n fwy eang fel ymddygiad digroeso sy'n creu amgylchedd bygythiol neu ymosodol.
Bwriad ac Effaith
- Mae bwlio fel arfer yn fwriadol ac wedi'i dargedu, gan ffocysu ar ddefnyddio pŵer neu reolaeth dros rywun.
- Gall aflonyddu fod yn fwriadol neu'n anfwriadol. Mewn rhai achosion, efallai na fydd yr unigolyn yn ymwybodol bod ei ymddygiad yn cael effaith niweidiol neu'n peri tramgwydd i berson arall. Serch hynny, hyd yn oed os nad oedd rhywun yn bwriadu tramgwyddo, gall yr effaith ar y person (neu unrhyw un arall yr effeithiwyd arno) gael ei ystyried yn aflonyddu o hyd.
Cwmpas Ymddygiad
- Yn aml bydd bwlio'n cynnwys ymddygiad ymosodol, corfforol, geiriol neu seicolegol uniongyrchol sydd â'r nod o danseilio'r dioddefwr.
- Mae aflonyddu'n cynnwys ystod eang o ymddygiad dieisiau (cyffwrdd, jôcs sarhaus, sylwadau bychanol, eithrio etc.) sy'n tarfu ar urddas unigolyn yn fwriadol neu'n creu amgylchedd gelyniaethus.
Gwaith y brifysgol neu ddigwyddiadau astudio
O dan y Polisi Urddas wrth Weithio ac Astudio, rhaid i staff a myfyrwyr sy'n mynd i ddigwyddiadau gwaith neu astudio (boed wedi'u trefnu gan y Brifysgol neu'n cynrychioli'r Brifysgol) megis mewn cynadleddau, digwyddiadau cymdeithasol, teithiau maes, sesiynau hyfforddi etc. sicrhau nad ydynt yn rhan o unrhyw ymddygiad a allai gael ei ystyried yn fwlio neu'n aflonyddu.
Mae'r polisi hwn hefyd yn cynnwys ymddygiad tuag at bobl eraill nad ydynt yn aelodau'r Brifysgol (megis ymgeiswyr, contractwyr, cleifion ac aelodau eraill y cyhoedd sy'n ymweld â safleoedd y Brifysgol neu'n defnyddio gwasanaethau'r Brifysgol).
Beth nad yw'n cael ei ystyried yn fwlio neu'n aflonyddu?
Mae angen gwahaniaethu rhwng ymddygiad amhriodol, na fydd yn cael ei ddioddef, a sgyrsiau arferol y disgwylir i staff a myfyrwyr eu cael gyda'i gilydd.
Trafodaethau tryloyw a theg am faterion sy'n briodol. Er enghraifft:
- adborth gonest (a allai gynnwys meysydd gwaith lle mae unigolyn yn tanberfformio neu'n methu bodloni safonau ymddygiad a ddisgwylir gan y Brifysgol); dylai adborth o'r fath fod yn ffeithiol ac yn adeiladol
- cydweithio parchus a rhannu syniadau a barn rhwng unigolion, pan efallai na fydd pobl bob amser yn cytuno; caiff trafodaethau adeiladol eu hannog.
Mae mwy o wybodaeth am fwlio neu aflonyddu a gweithdrefnau am hyn ym Mholisi Urddas wrth Weithio ac Astudio y Brifysgol a'rWeithdrefn Disgyblu a Chamymddygiad Anacademaidd.
Mae'r*Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) hefyd yn cynnig gwybodaeth am aflonyddu anghyfreithlon