• Mae Bullies Out yn elusen sy'n cefnogi unrhyw un sy'n cael ei fwlio. Gallwch chi gysylltu â mentor ar-lein drwy e-bost yn mentorsonline@bulliesout.com, neu drwy'r cynllun e-fentora a gallwch gael mynediad at bum sesiwn gwnsela drwy eu cynllun  Talk2us .   
  • Cyngor ar Bopeth - gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu.
  • Cybersmile - gwybodaeth am seiberfwlio i oedolion.  
  • Family Lives - gwybodaeth a chyngor ynglŷn â bwlio yn y Brifysgol.
  • Galop - atal a herio troseddau casineb homoffobig a thrawsffobig.
  • Get Safe Online  - cyngor ar ddiogelwch ar-lein
  • National Bullying Helpline - cymorth i unrhyw un sy'n cael ei fwlio. Ffoniwch 0845 22 55 787, 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Papyrus HOPELINEUK. Os ydych o dan 35 oed ac yn cael trafferth gyda theimladau o hunanladdiad, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, gallwch chi ffonio  Papyrus HOPELINEUK  ar 0800 068 4141 (dyddiau'r wythnos 10am-10pm, penwythnosau a gwyliau banc 2pm–10pm).
  • Revenge Porn Helpline - gwasanaeth ledled y DU sy'n cefnogi oedolion (18+ oed) sy'n profi cam-drin gyda delweddau preifat, (sef pornograffi dial), Ffoniwch: 0345 6000 459  
  • Y Samariaid - Ffôn: 116 123 neu e-bostiwch  jo@samaritans.org am gymorth emosiynol anfeirniadol, 24/7.
  • Shout: gwasanaeth cymorth testun cyfrinachol am ddim.
  • Stonewall: cymorth ynghylch materion sy'n effeithio ar y gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
  • Tell Mama: sefydliad annibynnol, anllywodraethol, sy'n mynd i'r afael â chasineb yn erbyn Mwslimiaid. Mae'r Prosiect MAMA yn darparu modd i adrodd am ddigwyddiadau, eu cofnodi a'u dadansoddi yn gywir a darparu cymorth i ddioddefwyr a thystion.   
  • The Mix: Cymorth i unrhyw un o dan 25 am unrhyw beth. Mae cymorth e-bost ar gael drwy eu ffurflen gyswllt ar-lein, ac maen nhw hefyd yn cynnig cwnsela tymor byr am ddim.
  • Togetherall - Cymuned fyd-eang ar-lein 24/7 ddienw am ddim gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig. Mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost yn y brifysgol.
  • Cymorth i Ddioddefwyr - i unrhyw un sydd wedi dioddef effaith troseddu. Gallan nhw hefyd eich cefnogi i adrodd i'r heddlu.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd