Mae gennych fynediad at gymorth ni waeth a yw'r bwlio a'r aflonyddu yn barhaus neu'n hanesyddol, ac nid oes rhaid iddo fod yn gysylltiedig â'r Brifysgol i gael cyngor ac arweiniad. 

 Dyma ymgynghorwyr sy'n arbenigo mewn ymdrin â materion trais a chamdriniaeth, a gallant eich cynghori ynglŷn â:  

  • Diogelwch personol
  • Materion academaidd e.e. amgylchiadau esgusodol, cysylltu â'ch cyfadran 
  • Llety'r Brifysgol  
  • Opsiynau a phrosesau adrodd 
  • Cael mynediad at gymorth arbenigol, yn y Brifysgol a'r gymuned   
  • Darparu llythyrau ategol

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd