Os oes rhywun rydych yn ei adnabod wedi profi stelcio, mae'n bwysig eich bod yn gwrando arno, a bod yn agored am yr hyn y mae’n ei ddweud wrthych chi. Ceisiwch beidio â gofyn am ormod o fanylion a'i gwneud hi'n glir eich bod yn barod i wrando pryd bynnag y bydd eisiau siarad, a chynnig cymorth ymarferol, megis ei gyfeirio at Adrodd a Chymorth neu gynnig manylion gwasanaethau cymorth arbenigol. 

Pan fydd dioddefwyr stelcio'n siarad am eu profiadau, nid yw'n swnio'n ddifrifol ar adegau gan nad yw'r person sy'n stelcio'n hynod ymosodol neu fygythiol. O ganlyniad, mae'n gyffredin i'r rhai sy'n profi stelcio i deimlo cywilydd am roi gwybod amdano ac am gael eu bygwth ganddo. Nid yw'n anarferol i ddioddefwyr stelcio ddibrisio'r pwysigrwydd, yr effaith a'r profiad ac nid yw'n anarferol i'r rhai sy'n agos at y person sy'n cael ei stelcio gael ei gymryd o ddifrif.

Gall fod yn anodd gwybod neu sylweddoli pan fydd person yn cael ei stelcio. Gall y person feddwl ei fod o ganlyniad i ffactorau eraill, a heb sylweddoli beth sy'n digwydd.

Os oes gennych ffrind sydd wedi dweud wrthych am unrhyw un o'r isod, efallai ei fod yn cael ei stelcio: 

  • Derbyn llawer o gyfathrebu diangen (e-byst, llythyron, rhoddion, galwadau ffôn, negeseuon) yn rheolaidd( o leiaf ddwywaith neu fwy)
  • Derbyn llawer iawn o gyfathrebu diangen sawl gwaith
  • Sylwi bod rhywun arall bob amser o amgylch ei weithle, ei gartref neu leoliadau y mae’n mynd iddynt yn aml
  • Cysylltu â chi drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug yn rheolaidd

Mae ymddygiad fel yr enghreifftiau uchod hefyd yn dilyn y patrwm canlynol: :  ymddygiad sefydlog, obsesiynol, nas dymunir ac sy'n digwydd dro ar ôl tro sy'n gwneud i chi deimlo'n boenus ac yn aflonyddu

Os bydd yr wybodaeth y mae rhywun yn dweud wrthych yn cyd-fynd â'r patrymau uchod, stelcio ydyw fel arfer. 

Gall fod yn ddefnyddiol i: 

  • Roi gwybod iddo eich bod yn pryderu.
  • Gwrandewch ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud, a rhowch wybod iddo eich bod chi'n ei gredu ac yn ei gymryd o ddifri.
  • Rhowch wybod iddo nad ei fai ef yw hyn a gall gael help a chymorth.
  • Ceisiwch ei annog i wneud datgeliad i'r brifysgol er mwyn cael cymorth mewnol, neu iddo edrych ar ein tudalennau cymorth sy'n ei gyfeirio at gymorth allanol.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser iddo gymryd y cam nesaf neu i gydnabod ei fod yn cael ei stelcio, yn enwedig os yw hyn yn rhywun y mae'n ei adnabod. Mae bod yn gymorth iddo nes bod yr amser yn iawn iddo yr union beth sydd ei angen arno.

It can be difficult to know how to help someone who has been subjected to stalking, it can be a frightening and confusing time for them and for you. It is important that they are aware of the support available for students, from the University and external support services.

Os ydych chi'n poeni am les myfyriwr arall a hoffech siarad â rhywun, e-bostiwch Welfare.CampusLife@abertawe.ac.uk neu defnyddiwch yr offeryn Adrodd a Chymorth. Mae'n bwysig sicrhau bod y person yn ymwybodol o unrhyw fanylion rydych yn eu rhannu amdano, oherwydd mewn rhai achosion gallai camau gweithredu a gymerir roi rhywun mewn perygl pellach. Gallwch hefyd awgrymu ei fod yn cysylltu â gwasanaethau cymorth arbenigol sydd fwyaf cysurus iddo. Os oes angen cymorth ar frys ar rywun, ffoniwch yr heddlu ar 999.  

Meddyliwch

  •  Ydy ef/hi mewn perygl uniongyrchol? Os ydy mewn perygl uniongyrchol neu wedi'i anafu'n ddifrifol ar y campws, gall ffonio tîm diogelwch Prifysgol Abertawe ar 01792 604271 neu ddefnyddio ap Safezone. Os ydy oddi ar y campws, ffoniwch y Gwasanaethau Brys ar 999.
  • Ewch i le diogel.  Os yw'r ymosodiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle mae'n teimlo'n ddiogel

Gwrando a Chredu

  • Gwrando. Os bydd rhywun yn datgelu profiad o gael ei stelcio i chi, gwrandewch ar yr hyn y mae'n ei ddweud wrthych heb feirniadu, gall tosturi ac empathi fod yn hynod fuddiol. Gall cymryd yr amser i wrando ar rywun a siarad am yr hyn sydd wedi digwydd helpu.
  • Credu. Yn hytrach na gofyn llwyth o gwestiynau, rhowch wybod iddo eich bod chi'n ei gredu ac yn byddwch yn ei gefnogi gorau y gallwch chi. Peidiwch â symud ymlaen i'r hyn sydd eisiau ei wneud heb ddilysu'n gyntaf yr hyn rydych wedi'i glywed a gwrandewch ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud.
  • Tawelu meddwl. Cofiwch ei atgoffa, nid oes gan neb yr hawl i roi dolur iddyn nhw, waeth beth yw'r berthynas neu statws, ac nid ei fai ef yw bod hyn wedi digwydd. 
  • Rhoi opsiynau. Gall rhywun sydd wedi dioddef stelcio neu sy'n cael ei stelcio deimlo bod y pŵer neu'r rheolaeth wedi cael ei gymryd oddi wrtho. Mae hyn yn golygu mai'r peth pwysicaf yw ymateb mewn ffordd sy'n gwella ei ddewis dros yr hyn sy'n digwydd nesaf. Gallwch ofyn iddo beth sydd ei angen arno. Efallai na fydd yn gwneud yr un penderfyniad ag y byddech chi; serch hynny, dim ond yr unigolyn hwnnw sy'n gallu penderfynu beth sydd orau iddo. Gallwch chi ei helpu i archwilio'r opsiynau drwy osgoi dweud wrtho yr hyn y dylent ei wneud.

Cymorth Allanol:

Mae nifer mawr o wasanaethau cymorth y gallwch chi eu ffonio neu ymweld â nhw.

Gofalwch Am Eich Hun:

Gall cefnogi goroeswr fod yn anodd, and mae'n berffaith iawn cymryd amser a lle i chi'ch hun weithiau. Mae'n bwysig peidio â bradychu ymddiriedaeth goroeswr drwy ddweud wrth eraill am brofiadau'r person heb ganiatâd, ond gallwch chi siarad yn gyfrinachol â'r gwasanaethau a nodir uchod a chael cymorth arbenigol ganddynt.

Ffynonellau Eraill O Gymorth:

  • Mae'rSamariaid ar gael i siarad â nhw am unrhyw beth sy'n eich poeni, does dim ots pa mor fawr neu fach yw'r broblem. Does dim rhaid i chi deimlo fel eich bod am ladd eich hun. Ffoniwch: 116 123. Ar agor ddydd a nos, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn.
  • Mae Breathing Space yn cynnwys ymgynghorwyr profiadol a fydd yn gwrando arnoch chi ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor. Ffoniwch eu llinell gymorth:0800 83 85 87 Oriau Agor: Yn ystod yr wythnos: Dydd Llun i ddydd Iau, 6pm i 2am Penwythnos: Nos Wener 6pm i ddydd Llun 6am.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd