Credwn nad yw Stelcio byth yn iawn ac nid oes lle iddo yng nghymuned Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol ar gyfer pob aelod o'n cymuned.

Gallwch chi gysylltu â'r Heddlu os bydd rhywun yn eich stelcio. Mae gennych hawl i deimlo'n ddiogel.- Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn eich stelcio chi neu'n aflonyddu arnoch, rhowch wybod am eich pryderon i'r Heddlu yn eich gorsaf heddlu leol. Gallwch hefyd ffonio'r Heddlu i roi gwybod am bryderon nad ydynt yn rhai brys neu drafod y sefyllfa drwy ffonio 101,ar-lein neu drwy ffonio 999 os yw'n argyfwng.

Gallwch hefyd roi gwybod am ddigwyddiad yn anhysbys drwy ffonio Crime Stoppers ar 0800 555 111

Diogelwch ar y campws Os ydych chi ar y campws, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Diogelwch y Campws - drwy ffonio 333 o unrhyw ffôn Zoom, ffonio 01792 513333 ar ffôn symudol neu ddefnyddio ein ap SafeZone.

Cael Cymorth 

Cymorth Mewnol

· Tîm Llesiant@BywydCampws yw'r pwynt cyswllt cyntaf a argymhellir ar gyfer unrhyw fyfyriwr y mae trais neu gam-drin wedi effeithio arno, gan gynnwys stelcio.Os ydych wedi profi stelcio a hoffech siarad â rhywun am eich profiad, gwnewch ddatgeliad a enwir drwy Adrodd a Chymorth. 

Nid oes rhaid i chi gyflwyno adroddiad swyddogol i gysylltu â thîm Llesiant@BywydCampws. Mae'r system Adrodd a Chymorth yn ffordd o ddatgelu os yw stelcio wedi effeithio arnoch chi. Gyda'ch cydsyniad chi, gall y tîm Swyddogion Bywyd Myfyrwyr eich helpu chi gyda'r canlynol:

· Cynnig cyngor a gwybodaeth cyfrinachol i'ch helpu i benderfynu ar yr hyn sy'n iawn i chi 

· Mynd i'r afael â phryderon academaidd, llety neu bryderon byw 

· Cael eich atgyfeirio at y gwasanaethau cwnsela, meddygol a chyfreithiol 

· Cael mynediad at gymorth hunanofal

· Bod yn glust i wrando

· Gwneud cwyn neu adroddiad ffurfiol ar y campws neu oddi arno

· Cymorth yn eich Ysgol: Os ydych yn hapus i rannu eich gwybodaeth, gallech chi ystyried siarad â'ch Tiwtor Personol neu aelod o dîm cymorth eich cyfadran.

· Amgylchiadau Esgusodol: Os ydych yn teimlo bod eich profiad wedi effeithio ar eich astudiaethau, dylech ystyried cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol. Gall y tîm Llesiant@BywydCampws roi datganiad cefnogol i chi ar gyfer eich amgylchiadau esgusodol. Mae'n hynod bwysig eich bod yn siarad â rhywun cyn i chi sefyll unrhyw arholiadau neu gyflwyno gwaith. Gall unrhyw un o'r gwasanaethau cymorth ar y dudalen hon eich helpu chi o ran hyn.

Y ffordd orau o gysylltu â'r tîm Llesiant@BywydCampws yw cwblhau ffurflen datgeliaid a enwir. Bydd swyddog bywyd myfyriwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyfrinachol. Fel arall, gallwch e-bostio Welfare.CampusLife@abertawe.ac.uk 

Cymorth Allanol

Mae llawer o wasanaethau cymorth y gallwch chi neu rywun arall sydd wedi cael ei stelcio eu ffonio neu ymweld â nhw: 

· Polisi gan yr Heddlu yw Cyfraith Clare (a elwir hefyd yn Gynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS)) sy'n rhoi'r hawl i bobl wybod a oes gan eu partner presennol neu gyn-bartner hanes blaenorol o drais neu gam-drin. Darllenwch fwy yma.

· Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio - 0808 802 0300. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 09:30 a 16:00 yn ystod yr wythnos ac eithrio dydd Mercher pan fydd ar agor rhwng 13:00 a 16:00. Nid yw'r llinell gymorth ar agor ar wyliau banc.

· Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh - Nod y sefydliad hwn yw creu cymdeithas fwy diogel drwy leihau risg trais a natur ymosodol drwy ymgyrchu, addysg a chymorth.

· Paladin - Sefydliad nid er elw sy'n rhoi cymorth, cyngor ac eiriolaeth i unrhyw un sydd mewn perygl difrifol o niwed difrifol gan stelciwr.

·  Protection Against Stalking - Elusen genedlaethol sy'n codi ymwybyddiaeth o stelcio ac aflonyddu a chefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd. Cyngor a geirdaon gan bobl sydd wedi cael eu stelcio.

·  Mae SafeLives yn elusen yn y DU sy'n ymroddedig i roi stop ar gam-drin domestig i bawb am byth.

·  Mae The Cyber Helpline yn rhoi help arbenigol am ddim i ddioddefwyr seiberdroseddu a niwed ar-lein.

· Revenge Porn Helpline - Cyngor, arweiniad a chymorth i oedolion (18 oed a hŷn). Ar agor rhwng 10.00am a 4.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener - 0345 600 0459.

· Victims First - Cymorth emosiynol ac ymarferol am ddim i holl ddioddefwyr a thystion troseddau, yn ogystal ag aelodau teuluoedd y dioddefwyr.

· Karma Nirvana yw'r elusen arbenigol gyntaf ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr Cam-drin ar sail Anrhydedd yn y DU. Gallwch ffonio eu llinell gymorth yn y DU:0800 5999 247

· Cymorth i Ddioddefwyr - gallant helpu unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd. Gallan nhw eich cefnogi i ymdopi â sgîl-effeithiau trosedd a'ch helpu i adrodd amdani i'r heddlu.

Bod yn Ddiogel Ar-lein

· Awgrymiadau a chyngor cyffredinol am fod yn ddiogel ar-lein https://fightcybercrime.org/scams/harassment/cyberstalking/

· Diweddarwch neu addaswch yr holl osodiadau preifatrwydd ac edrychwch ar gyngor a roddir gan Get Safe Online: https://www.getsafeonline.org/personal/articles/cyberstalking/  

· Am fwy o wybodaeth am apiau diogelwch digidol a sut maen nhw'n cael eu defnyddio i ddiogelu eich dyfais, ewch i: https://www.getsafeonline.org/personal/articles/viruses-and-spyware-st/

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd