Nid yw stelcio byth yn iawn. Os oes rhywun yn eich stelcio neu os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn eich stelcio, nid yw hyn o ganlyniad i rywbeth rydych chi wedi'i wneud, felly nid eich bai chi yw hyn. Peidiwch â theimlo embaras amdano a cheisiwch siarad â rhywun amdano.  

Ble i ddechrau: 

Ydych chi mewn perygl nawr? 

· Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi’ch anafu’n ddifrifol ar y campws, gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau brys drwy ffonio 999 (neu 112 ar ffôn symudol)

· Os ydych chi ar y campws, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Diogelwch y Campws - drwy ffonio 333 o unrhyw ffôn Zoom, ffonio 01792 513333 ar ffôn symudol neu ddefnyddio ein ap SafeZone.

Os nad ydych chi mewn perygl nawr:

· Ewch i le diogel:  Os yw newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle sy'n teimlo'n ddiogel 

· Dywedwch wrth eich hun:  Weithiau, y person cyntaf mae’n rhaid i ddioddefwr ddatgelu iddo yw ei hun. Yn rhy aml gall dioddefwyr feddwl ei fod yn rhywbeth "diniwed" neu mai nhw oedd ar fai. 

Siarad

· Siaradwch â ffrind: Gall siarad amdano â rhywun rydych yn ymddiried ynddo helpu weithiau.

· Cymorth i fyfyrwyr: Llesiant@BywydCampws: Gall aelod o'r tîm eich tywys drwy weithdrefnau'r Brifysgol, sut rydych am symud ymlaen a pha gymorth sydd ar gael.

Beth yw'r arwyddion eich bod yn cael eich stelcio?      

 · A oes rhywun nad yw'n derbyn na am ateb? 

· Ydy’n gwneud bygythiadau?

· A ydych yn cael problemau gyda chyn-bartner?

· Ydych chi'n cael galwadau a negeseuon testun diangen drwy'r amser?

· Ydych chi'n ofni bod rhywun am roi dolur i chi?

· Ydy’n ymddangos yn rhywle rydych yn mynd iddo'n rheolaidd?

· Ydych chi'n cael eich dilyn, yn sylwi bod rhywun yn sefyll ger eich cartref, eich prifysgol neu’ch gweithle?

· Ydy’n anfon anrhegion diangen atoch?

· Yn ofni rhywun nad yw'n fodlon gadael llonydd ichi?

· Cyswllt parhaus ar-lein, efallai gan broffiliau ffug?

(ffynhonnell, Heddlu Swydd Stafford, 2020)

Effaith Stelcio:

Mae effaith stelcio'n amrywio ac yn dibynnu ar y pethau canlynol: y berthynas rhwng y dioddefwr a'r stelciwr, y mathau o ymddygiad stelcio a brofwyd a phrofiadau'r dioddefwr. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos y gall y stelciwr effeithio ar bob rhan o fywyd y dioddefwr.

Effaith Stelcio

Os ydych chi'n profi ymddygiad diangen, mynych, obsesiynol a/neu reolaethol sy'n gwneud i chi deimlo’n bryderus neu'n ofnus, efallai eich bod yn cael eich stelcio. Gall stelcio ymddangos mewn sawl ffordd ac mae'n debygol o fod yn rhywun rydych eisoes yn ei adnabod yn dda megis cyn-bartner. Mae llawer o bobl a sefydliadau a all eich cefnogi os ydych yn cael eich stelcio.

RHOI GWYBOD I'R HEDDLU:

Mae Stelcio'n Drosedd

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn eich stelcio, rhowch wybod am eich pryderon i'r Heddlu yn eich gorsaf heddlu leol. Gallwch hefyd ffonio'r Heddlu i roi gwybod am bryderon nad ydynt yn rhai brys neu drafod y sefyllfa drwy ffonio 101,ar-lein neu drwy ffonio 999 os yw'n argyfwng. 

Gallwch hefyd roi gwybod am y digwyddiad yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar unrhyw adeg ar 0800 555 111

CYMORTH I FYFYRWYR:

· Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr roi gwybod am ddigwyddiad drostynt eu hunain neu ar ran myfyriwr arall gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gall staff gyflwyno adroddiad ar ran myfyriwr. Diben y system hon yw rhoi cymorth os ceir camymddygiad rhywiol neu gamdriniaeth. Gallwch hefyd roi gwybod amdano'n anhysbys.

· Tîm Llesiant@BywydCampws yw'r pwynt cyswllt cyntaf a argymhellir ar gyfer unrhyw fyfyriwr y mae trais neu gam-drin wedi effeithio arno, gan gynnwys stelcio.Os ydych wedi profi stelcio a hoffech siarad â rhywun am eich profiad, gwnewch ddatgeliad a enwir drwy Adrodd a Chymorth.

Cadw eich Hun yn Ddiogel

Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i gadw eich hun yn ddiogel a chael mwy o reolaeth ar yr hyn sy'n digwydd i chi. Cofiwch, nid eich bai CHI YW HYN

Casglu tystiolaeth

Os ydych am roi gwybod am hyn neu beidio, bydd casglu tystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd yn ddefnyddiol a bydd yn eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth ac os ydych am roi gwybod amdano, bydd hi'n haws gwneud hynny. 

· Defnyddiwch yr ap Follow it sy'n eich helpu i gofnodi stelcio wrth iddo ddigwydd

· Hollie Guard – Ap Diogelwch Personol

· Tynnwch sgrinluniau o e-byst a'u cadw.

· Rhestr Wirio Risg - Cwblhewch yr 11 o Gwestiynau Sgrinio Risg - Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl, cwblhewch y rhestr wirio sgrinio stelcio.

· Dilynwch eich greddf a pheidiwch byth â chysylltu â'ch stelciwr - dilynwch eich greddf bob amser ac os ydych yn ofnus neu’n poeni, ffoniwch yr heddlu neu ewch i le diogel.    Gwnewch yn siŵr nad ydych yn cysylltu â’ch stelciwr nac yn ymateb iddo mewn unrhyw ffordd arall.

 

Adrodd Amdano

· Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr roi gwybod am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallwch ddewis gwneud hyn yn anhysbys neu gallwch roi gwybod amdano gyda manylion cyswllt. Os ydych yn dewis rhoi gwybod amdano gyda manylion cyswllt, bydd aelod o'r tîm Cymorth a Llesiant Myfyrwyr yn gallu eich tywys drwy'r opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi.

· Gweithdrefn y Brifysgol. Os ydych yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i'r Brifysgol am fyfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy'n nodi'r camau y bydd angen i chi eu dilyn.

Cael Cymorth  

· Dyma rai opsiynau cymorth sydd ar gael

Ystyriwch eich diogelwch ar-lein

· Gwiriwch eich presenoldeb ar-lein ac adolygu eich gosodiadau.

· Newidiwch eich cyfrineiriau'n rheolaidd, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n wahanol. 

· Newidiwch eich gosodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau rhwydweithio cymdeithasol i breifat. Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd sydd gennych ar waith.

· Rhowch wybod am negeseuon a chyswllt diangen a geir ar y rhwydweithiau cymdeithasol neu'r cyfryngau i ddarparwyr y platfform.

Cadwch gofnodion

· Cadwch gofnod o'r hyn sydd wedi digwydd, ble a phryd, bob tro y cawsoch eich dilyn, eich ffonio, a phob tro rydych yn derbyn post neu e-bost. Nodwch yr wybodaeth cyn gynted â phosib, pan fydd y digwyddiadau'n ffres yn eich meddwl.

· Gorau po fwyaf o fanylion sydd gennych. Sut olwg neu lais oedd gan y troseddwr? Beth roedd yn ei wisgo? Beth yw gwneuthuriad a rhif cofrestru neu liw'r car?

· Cadwch lythyrau a pharseli fel tystiolaeth. Hyd yn oed os byddan nhw'n cynnwys negeseuon sy'n codi ofn arnoch neu'n eich cynhyrfu, peidiwch â'u taflu a cheisiwch beidio â'u trin nhw gormod.

· Cadwch gopïau o e-byst, negeseuon testun a negeseuon ar rwydweithiau cymdeithasol.  Argraffwch gopïau os ydych yn gallu.

· Cadwch gofnod o rifau ffôn. Ceisiwch recordio sgyrsiau ar y ffôn os ydych chi'n gallu.

· Dywedwch wrth eich ffrindiau, eich cymdogion a'ch cydweithwyr am yr hyn sy'n digwydd.

· Ceisiwch gael tystiolaeth ffotograffig neu fideo o'ch stelciwr (yn enwedig os yw'n rhywun y mae'r heddlu eisoes wedi'i rybuddio i beidio â dod yn agos atoch chi).

Os ydych yn gwybod neu'n canfod pwy sy'n eich stelcio:

· Peidiwch â wynebu eich stelciwr na siarad ag ef.

· Peidiwch, o dan unrhyw amgylchiadau, gytuno i gwrdd ag ef i siarad am sut rydych chi'n teimlo am yr hyn y mae’n ei wneud i chi.

· Peidiwch ag ymateb mewn unrhyw ffordd i alwadau, llythyrau neu sgyrsiau. Os ydych yn anwybyddu'r galwadau ffôn naw gwaith ond yn codi'r ffôn ar y degfed tro, byddwch yn anfon neges ei bod hi'n talu i ddyfalbarhau. Unwaith mae’n denu eich sylw, bydd yn parhau i wneud hyn.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd