Os ydych chi yn profi/wedi profi trais ar sail 'anrhydedd' nid eich bai chi yw hyn. Eich diogelwch a'ch lles chi yw'r blaenoriaethau pennaf, ac mae amrywiaeth o gymorth arbenigol ar gael i'ch helpu i ymdopi â’ch sefyllfa.

Ble i ddechrau?

Ydych chi mewn perygl nawr?

Ewch i le diogel - os yw'r ymddygiad newydd ddigwydd, ewch i rywle diogel lle mae pobl eraill, e.e. y llyfrgell ar y campws, siop neu gaffi os yw mewn man cyhoeddus.

Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os ydych chi'n drwm eich clyw, lawrlwythwch yr ap  999 BSL.  

Os ydych chi ar y campws, cysylltwch â Gwasanaethau Diogelwch y Campws drwy ap Safezone, deialu 333 o unrhyw ffôn mewnol neu 01792 513333 ar ffôn symudol.

Os nad ydych chi mewn perygl nawr, mae gennych amser i ystyried eich opsiynau.

Dywedwch wrth eich hun – Weithiau, y person cyntaf mae’n rhaid i ddioddefwr ddatgelu iddo yw ei hun. Yn rhy aml gall dioddefwyr argyhoeddi eu hunain ei fod yn rhywbeth "diniwed" neu mai nhw oedd ar fai.  Effaith Cam-drin ar sail Anrhydedd

Beth hoffech chi weld yn digwydd?

Efallai eich bod yn gwybod beth hoffech chi weld yn digwydd nawr, ond gall fod yn brofiad sy'n codi ofn arnoch chi a'ch gorlethu, yn enwedig os ydych chi mewn perthynas â'r unigolyn neu'r unigolion, neu'n teimlo eu bod yn berygl i chi. 

Nid oes unrhyw ffordd gywir neu anghywir o ymateb, dyna sydd orau i chi. Gallai fod o gymorth siarad â rhywun; gallai hyn fod yn ffrind, aelod o'r teulu, sefydliad proffesiynol e.e. karmanirvana neu gallwch gysylltu â staff arbenigol yn y brifysgol trwy'r platfform Adrodd a Chymorth.

  • Gallwch wneud datgeliad dienw hefyd drwy'r wefan Adrodd a Chymorth, lle gallwch chi ddatgelu eich profiad heb roi eich enw. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddeall patrymau ymddygiad sy'n effeithio ar ein myfyrwyr. Os ydych chi'n gwneud datgeliad dienw, ni fydd neb yn cysylltu â chi ac ni fydd camau gweithredu ffurfiol yn cael eu cymryd.

  • ·Dyma fanylion am gymorth ychwanegol gallwch chi ei ystyried. Cymorth ar gyfer trais domestig a cham-drin ar sail anrhydedd

Opsiynau Adrodd - Chi sy'n Penderfynu

Nid adroddiad swyddogol yw datgeliad ac ni fydd yn arwain at weithredu ffurfiol. Chi sy'n penderfynu gwneud adroddiad neu beidio. Ni ddylai neb arall wneud y penderfyniad hwnnw i chi, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd