Credwn nad yw Stelcio byth yn iawn ac nid oes lle iddo yng nghymuned Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol ar gyfer pob aelod o'n cymuned
Mae stelcio yn batrwm o ymddygiad dieisiau ac obsesiynol sy'n ymwthiol ac yn achosi ofn trais neu drallod neu ofid difrifol.
Gall fod yn anodd gwybod neu adnabod beth yw stelcio. Gall deimlo fel aflonyddu, fodd bynnag, bydd stelcio yn aml yn canolbwyntio ar berson, tra bydd aflonyddu yn aml yn canolbwyntio ar anghydfodau.
Mae gwahanol fathau o stelcio. Mae stelcio yn anghyfreithlon a gall gynnwys cael eich dilyn gan rywun arall yn gyson, neu'r unigolyn hwnnw'n cysylltu â chi, fel cael negeseuon e-bost neu anrhegion dieisiau. Gall unrhyw un ddioddef stelcio waeth beth fo'i oedran, ei ryw neu ei gyfeiriadedd rhywiol.
Mae stelcio yn drosedd o dan Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1977. Gellir erlyn rhywun os oes o leiaf 2 achos o ymddygiad stelcio sy'n achosi ofn neu drallod. Gall stelciwr fod yn rhywun rydych chi'n ei adnabod, neu'n rhywun nad ydych chi'n ei adnabod. Gall stelcio gael ei gyflawni gan rywun rydych chi'n ei adnabod neu ddieithryn. Gall ddigwydd ar-lein, wyneb yn wyneb, neu gyfuniad o'r ddau. Y naill ffordd neu'r llall, cofiwch nad eich bai chi yw hynny, a bod stelcio yn drosedd.
Er y gall digwyddiadau unigol o'r uchod ymddangos yn weithred fach, gyda'i gilydd maent yn creu patrwm o ymddygiad a all fod yn frawychus ac yn fygythiol iawn. Os yw ymddygiad dieisiau yn digwydd fwy nag unwaith, stelcio ydyw.
Gall fod yn ddefnyddiol meddwl amdano fel FOUR yn Saesneg:
Fixated Obsessive Unwanted Repeated
Os yw'r ymddygiad yn barhaus ac yn amlwg yn ddieisiau, gan achosi i chi brofi ofn, trallod neu bryder, dylech ofyn am help a chymorth.
Ymddygiad Stelcio
Er bod pob sefyllfa stelcio yn unigryw ac efallai y bydd gan stelcwyr gymhellion gwahanol, mae'r tactegau a'r technegau a ddefnyddir gan bob un yn aml yn debyg iawn. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys y canlynol:
Sefyllian mewn man cyhoeddus neu breifat | Monitro ffôn, rhyngrwyd, e-bost, neu fathau eraill o gyfathrebu |
Gwylio neu sbïo ar rywun | Dilyn rhywun neu rywun arall sy'n gysylltiedig â'r unigolyn hwnnw |
Ymyrryd ag eiddo rhywun | Gadael anrhegion neu nodiadau dieisiau i rywun |
Ymddangos dro ar ôl tro mewn mannau lle mae'r unigolyn dan sylw | Cysylltu â rhywun mewn unrhyw fodd, neu geisio gwneud hynny |
Cyhoeddi deunydd am rywun heb ei ganiatâd | Cyfeillio â ffrindiau a theulu'r dioddefwr yn bersonol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol |
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd, a gall pob achos o stelcio gyflwyno amgylchiadau unigryw nad ydynt wedi'u rhestru uchod.
Gallwch gysylltu â'r heddlu os ydych yn cael eich stelcio. Mae gennych hawl i deimlo'n ddiogel.
Os byddai'n well gennych beidio â chynnwys yr heddlu, gallwch gyflwyno cais i'r llys am orchmynion sifil - fel gorchymyn peidio ag aflonyddu - os bu o leiaf 2 achos o aflonyddu.
Gallwch hefyd roi gwybod am y digwyddiad yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar unrhyw adeg ar 0800 555 111
Cymorth
Gall fod yn anodd ymdopi â stelcio oherwydd gall barhau am gyfnod hir o amser, gan wneud i chi deimlo ofn a phryder drwy'r amser. Weithiau gall y broblem ddatblygu'n raddol a gall gymryd peth amser i chi sylweddoli eich bod yn rhan o ymgyrch barhaus o gam-drin. I gael mwy o wybodaeth a chymorth, darllenwch ein tudalen Cymorth Stelcio.