Os yw camdriniaeth ar sail 'anrhydedd' wedi effeithio ar rywun rydych chi'n ei adnabod, efallai y byddwch chi'n bryderus am gefnogi’r person hwnnw, yn aml oherwydd ofn dweud neu wneud y peth anghywir.

Mae'r dudalen hon yn cynnig awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ddarparu cymorth ystyrlon i'r rhai hynny sydd wedi profi camdrinaeth ar sail anrhydedd

Cymerwch yr amser i ddeall beth yw gwir camdrinaeth ar sail anrhydedd, oherwydd gall hyn eich helpu chi. Cam-drin ar sail anrhydedd 

Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i wneud hynny, ystyriwch siarad â'r person yr effeithiwyd arno. Efallai na fydd eisiau rhannu'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, ond efallai y bydd yn ddiolchgar am y cyfle i drafod y sefyllfa a sut mae wedi effeithio arno.

Mae pobl yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol; efallai y bydd y person yn teimlo'n emosiynol, wedi'i orlethu neu'n ddryslyd ynghylch beth i’w wneud. Mae effaith cam-drin  ar sail anrhydedd yn amrywio, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau e.e. y berthynas rhwng y dioddefwr a'r unigolyn sy'n gwneud y bwlio, yr amgylchedd (e.e. cartref, gwaith, amgylchedd cymdeithasol), y math o ymddygiad a brofir, etc.

Nid oes angen i chi fod yn gwnselydd hyfforddedig er mwyn ymateb yn gefnogol, ond gall eich ymateb i'r hyn y mae rhywun yn ei ddatgelu wneud gwahaniaeth sylweddol o ran pa mor ddiogel y mae'r person yn teimlo ac os yw'n teimlo eich bod chi'n credu'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwrando ar y person, yn ei gredu ac yn ei gefnogi, ond peidiwch byth â rhoi pwysau ar rywun i wneud penderfyniad nad yw’n gyfforddus yn ei wneud.

Gwrandewch - Gwrando yw'r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud.

  • Chwiliwch am rywle preifat lle y gallwch siarad, a dywedwch eich bod chi'n falch ei fod yn rhannu ei brofiad â chi.
  • Byddwch yn amyneddgar; rhowch ryddid i’r person ddweud cyn lleied neu gymaint ag y mae'n dymuno ei rannu yn ei amser ei hun, heb dorri ar ei draws. Mae siarad am sut y mae'n teimlo yn medru bod yr un mor ddefnyddiol â thrafod manylion yr hyn a ddigwyddodd.
  • Dangoswch eich bod chi'n gwrando yn weithredol e.e. drwy nodio eich pen, ei wynebu, eistedd fel y gallwch wneud cyswllt llygad, a'i annog ar lafar e.e. "Rwy'n clywed yr hyn rwyt ti'n ei ddweud".
  • Parchwch ei ofod personol. Peidiwch â'i gyffwrdd, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl ei fod eisiau cysur corfforol, peidiwch â gwneud hynny. (Bydd hyn yn dibynnu ar eich perthynas â’r person)
  • Cynigwch rywbeth i'w gadw'n gynnes e.e. blanced neu eich côt (mae symptomau sioc yn medru cynnwys teimlo'n oer, crynu ac ysgwyd).
  • Os ydych chi'n cymryd nodiadau o'r sgwrs, cofnodwch yr hyn mae'n ei ddweud gair-am-air, er mwyn osgoi camddealltwriaeth. Gallai eich nodiadau gael eu defnyddio mewn ymchwiliad gan yr heddlu os yw'r person yn penderfynu adrodd am y digwyddiad.

  • Cofiwch eich rôl. Waeth beth yw'r berthynas rhyngoch, e.e., ffrind gorau, dieithryn, tiwtor personol, rheolwr llinell, cydweithiwr etc., nid chi yw'r heddlu. Peidiwch â holi rhywun yn ddwys neu ofyn am fanylion, oni bai bod ei ddiogelwch mewn perygl a bod angen gwybodaeth arnoch er mwyn ei ddiogelu.

  • ·Rhowch opsiynau - Efallai fod rhywun sy'n profi, neu sydd wedi profi, cam-drin ar sail 'anrhydedd' yn teimlo'n ddiymadferth gan fod rhywun wedi ei amddifadu o'i rym. Felly, mae'n bwysig galluogi'r person i ddewis beth sy'n digwydd nesaf.
  • ·Gofynnwch beth sydd ei angen  arnyn nhw neu beth maen nhw eisiau. Peidiwch â rhagdybio beth sydd ei angen neu ei eisiau arnyn nhw, efallai na fydd yn gwneud yr un penderfyniad â chi, ond yr unigolyn yn unig ddylai benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
  • Gallwch chi ei helpu i archwilio'r opsiynau drwy osgoi dweud wrth y person beth dylai ei wneud. Efallai eich bod chi'n meddwl bod cam gweithredu penodol yn amlwg ond mae'n bwysig bod y person yn dod o hyd i'w atebion ei hun, yn gosod ei ffiniau ei hun ac yn adennill rheolaeth; gall gwneud penderfyniadau ar ran y person gynyddu'r ymdeimlad hwnnw o fod yn ddiymadferth.
  • Os oes angen i chi rannu gwybodaeth, ceisiwch gael cydsyniad. Dywedwch wrth y person pa wybodaeth caiff ei rhannu ac â phwy.
  • Os ydych chi'n poeni bod y person ei hun neu rywun arall mewn perygl ar y pryd, esboniwch y bydd angen i chi ddweud wrth rywun. Os nad ydych chi'n sicr pa gamau gweithredu i'w cymryd, ceisiwch gyngor gan y tîm Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau drwy e-bostio SafeguardingDisclosure@abertawe.ac.uk
  • Os nad yw'r person am roi gwybod i'r heddlu, mae asiantaethau arbenigol sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol.
  • Os oes elfen rywiol i'r gamdriniaeth a digwyddodd hyn yn ystod y saith niwrnod diwethaf, gall y person gysylltu â New Pathways a mynd i Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) am archwiliad meddygol fforensig heb gysylltu â'r heddlu. Bydd New Pathways yn storio'r dystiolaeth nes bod y dioddefwr yn barod i roi gwybod i'r heddlu.

Gofalwch Amdanoch Chi Eich Hun

  • Peidiwch â cheisio delio â'r sefyllfa eich hun, e.e. wynebu neu ymosod ar y tramgwyddwr. Nid yw hyn yn helpu, mae'n anniogel a gallai arwain at ymchwiliad troseddol yn eich erbyn chi.
  • Gall gwrando ar ddatgeliad fod yn emosiynol, mae'n bwysig eich bod yn prosesu eich teimladau eich hun. Mae'n bwysig parchu cyfrinachedd, ond gallwch drafod y sefyllfa â sefydliad proffesiynol heb roi enwau a chael cymorth arbenigol priodol. Cofiwch, fyddwch chi ddim yn gallu cefnogi eraill heb ofalu amdanoch chi eich hun yn gyntaf.

Cyfeirio

  • Cyfeiriwch y person at Adrodd a Chymorth - Adrodd a Chymorth yw platfform adrodd ar-lein y Brifysgol, lle gall unigolion gyrchu cymorth ac ystyried eu hopsiynau o ran adrodd am ddigwyddiad, a hynny yn eu hamser eu hunain. Nid yw datgelu digwyddiad yn arwain yn syth at gŵyn ffurfiol.
  • Gallwch gefnogi rhywun i ddatgelu’r digwyddiad i'r Brifysgol, oherwydd mae'r ffurflen ar-lein yn caniatáu i chi adrodd ar ran rhywun arall.
  • Peidiwch byth â rhoi pwysau ar rywun i ddatgelu digwyddiad; hyd yn oed os ydych chi'n credu mai dyma'r peth cywir i’w wneud, rhaid i’r unigolyn wneud y penderfyniad ei hun.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd