Pa gymorth sydd ar gael i mi?

Cymorth Mewnol – Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol

Er mwyn i chi siarad yn gyfrinachol â Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO), gallwch chi gyflwyno adroddiad ag enw ar-lein drwy glicio ar y dolenni ar waelod y dudalen. Yna, bydd Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau â chi a bydd y swyddog yn gallu cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol priodol sy'n cyd-fynd â'ch amgylchiadau.

Sut gall Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol helpu?

Mae gennych chi fynediad at ein cymorth p'un a yw'r camymddygiad rhywiol wedi digwydd yn ddiweddar neu a oeddech chi wedi dioddef camymddygiad rhywiol cyn i chi ddod i Brifysgol Abertawe. Gyda'ch cydsyniad chi, gallwn ni eich helpu chi gyda'r canlynol:

Cael eich atgyfeirio at wasanaethau cwnsela a meddygol
Addasiadau academaidd a llety
Deall yr opsiynau sydd ar gael i chi o ran adrodd megis siarad â'r heddlu
Cael mynediad at ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol a sefydliadau arbenigol eraill
Dod o hyd i'ch ffordd drwy systemau ac adnoddau yn y Brifysgol

Mae pobl yn ymateb ac yn ymdopi â chamymddygiad rhywiol mewn sawl ffordd. Byddwn ni'n parchu'n llwyr y ffordd rydych chi'n dewis gweithredu. Byddwn ni'n eich cefnogi chi ar y llwybr sy'n fwyaf addas i chi. Byddwn ni'n ymdrin â'r wybodaeth rydych chi'n ei datgelu'n gyfrinachol a byddwn ni'n parchu eich penderfyniadau - rydyn ni yma i wrando arnoch chi ac i'ch cefnogi.

Cymorth Allanol

Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) New Pathways
 
Dyma gyfleuster arbennig lle gall pobl sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhywiol yn ddiweddar dderbyn cymorth ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at archwiliad meddygol fforensig, sy'n cael ei gynnal gan feddyg profiadol a chymwys, a'r cyfle i siarad â'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd i chi os ydych chi'n dymuno gwneud hyn. Bydd dioddefwyr sy'n mynd i ganolfan SARC hefyd yn derbyn cymorth a chyngor gan un o'r Gweithwyr Argyfwng sy'n gallu cynnig cymorth i chi ac aros gyda chi drwy gydol y broses.

Gall y sefydliadau canlynol gynnig rhagor o gymorth i ddioddefwyr camymddygiad rhywiol:

  • Argyfwng Trais: Dyma linell ffôn gymorth am ddim sy'n gallu darparu cyngor i fenywod a dynion, ynghyd ag adnoddau ar-lein.
  • Cymorth i Ddioddefwyr: Opsiynau o ran cymorth fel dioddefwr trosedd
  • Dewisiadau'r GIG: Cymorth ar ôl trais ac ymosodiad rhywiol
  • BAWSO: Dyma sefydliad gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru i ddioddefwyr BAME sy'n dioddef cam-drin domestig a phob math o drais neu sydd mewn perygl o ddioddef y rhain
  • Cymorth i Fenywod Abertawe: sefydliad i fenywod yn unig yw Cymorth i Fenywod Abertawe, sy'n cefnogi menywod y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt, p'un a oes ganddynt blant ai peidio. 
  • Llinell Gymorth: Llinell ffôn gymorth gyfrinachol
  • Mind: Elusen iechyd meddwl
  • The Survivors Trust: Sefydliadau arbenigol ledled y DU
  • Karma Nirvana: Dyma elusen sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod a cham-drin ar sail anrhydedd
  • Survivors UK: Dyma linell ffôn gymorth gyfrinachol am ddim i ddynion a bechgyn sy'n ymdopi ag effeithiau trais rhywiol
  • LifeCentre – Llinellau cymorth a chymorth ar-lein i ddioddefwyr camymddygiad rhywiol
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd