Cymorth Mewnol
Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi’ch anafu’n ddifrifol, gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau brys drwy ffonio 999 (neu 112 ar ffôn symudol).
Os ydych chi ar y campws, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Diogelwch y Campws - drwy ffonio 333 o unrhyw ffôn Zoom, ffonio 01792 513333 ar ffôn symudol neu ddefnyddio ein ap SafeZone. Swyddog Bywyd Myfyrwyr (SLO)
Gallwch siarad yn gyfrinachol â Swyddog Bywyd Myfyrwyr, sy'n rhan o'r tîm Llesiant@BywydCampws. Ar gyfer hyn, gallwch wneud datgeliad a enwir drwy'r platfform hwn. Yna, bydd Swyddog Bywyd Myfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau â chi a bydd y swyddog yn gallu cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol priodol sy'n cyd-fynd â'ch amgylchiadau. Mae'r swyddogion hyn hefyd yn Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol hyfforddedig.
Sut gall Swyddog Bywyd Myfyrwyr helpu?
Mae gennych fynediad at ein cymorth os yw'r cam-drin domestig wedi digwydd yn ddiweddar neu beidio. Gyda'ch cydsyniad chi, gallwn ni eich helpu chi gyda'r canlynol:
- Cael eich atgyfeirio at wasanaethau cwnsela a meddygol
- Addasiadau academaidd a llety
- Deall yr opsiynau sydd ar gael i chi o ran adrodd megis siarad â'r heddlu
- Cyrchu sefydliadau arbenigol, megis Clinigau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs)
- Dod o hyd i'ch ffordd drwy systemau ac adnoddau yn y Brifysgol ac yn y gymuned
- Arweiniad ar weithdrefnau'r Brifysgol megis cyflwyno cwyn ffurfiol drwy'r Polisi Urddas yn y Gweithle ac Wrth Astudio
Mae pobl yn ymateb ac yn ymdopi â chamymddygiad rhywiol mewn sawl ffordd. Byddwn ni'n parchu'n llwyr y ffordd rydych chi'n dewis gweithredu. Byddwn ni'n eich cefnogi chi ar y llwybr sy'n fwyaf addas i chi. Byddwn ni'n ymdrin â'r wybodaeth rydych chi'n ei datgelu'n gyfrinachol a byddwn ni'n parchu eich penderfyniadau - rydyn ni yma i wrando arnoch chi ac i'ch cefnogi. Cedwir yr wybodaeth yn gyfrinachol, oni bai bod pryder diogelu ar eich cyfer chi neu eraill.
Cymorth Lleol
- Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol New Pathways (SARC): Dyma gyfleuster arbennig lle gall pobl sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhywiol yn ddiweddar dderbyn cymorth ar unwaith.
- Cymorth i Fenywod Abertawe: 01792 644683 - sefydliad i fenywod yn unig sy'n cefnogi menywod y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt, p'un a oes ganddynt blant ai peidio.
- Bawso: 08007318714 - Sefydliad Cymru gyfan sy'n cynnig gwasanaethau cyffredinol ac arbenigol gan gynnwys darparu llety dros dro i'r rhai y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt neu sydd mewn perygl ohono a phob math o drais megis anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern. info@bawso.org.uk
Cymorth Arbenigol Allanol:
Mae llawer o wasanaethau cymorth y gallwch chi neu rywun arall sydd wedi cael ei stelcio eu ffonio neu ymweld â nhw:
- Llinell Gymorth Live Fear Free: Llinell gymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ar agor ddydd a nos, 7 niwrnod yr wythnos, dros y ffôn, neges destun, sgwrs dros y we ac e-bost. Ffoniwch:0808 80 10 800 Tecstio: 01860077333
- Dyn Wales: 0808 801 0321 – Mae prosiect Dyn Cymru Ddiogelach yn rhoi cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol sy'n profi cam-drin domestig gan bartner.
- Llinell Gymorth Respect Men ffôn: 0808 801 0327 I ddynion sy'n profi cam-drin domestig gan eu partner presennol neu gyn-bartner
- Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig LHDT+ ffôn: 0800 999 5428 | E-bost: help@galop.org.uk
- Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cymorth dros y ffôn, sgwrs fyw ac ar-lein.
- Galop - Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig LHDT+ 0800 999 5428
- SurvivorsUK:Rydym yn cefnogi goroeswyr gwrywaidd ac anneuaidd trais rhywiol, gan ddarparu cwnsela, cymorth ymarferol a chymuned ar eich taith iachâd.
- Mae Ystafelloedd Ymgynghori Fferyllfa Boots bellach yn fannau diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig lle gallwch gysylltu â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol am gymorth a chyngor.
- Mae Refuge yn cynnig ystod eang o gymorth i fenywod a phlant drwy amrywiaeth o wasanaethau gwahanol.
- Mae Man Kind Initiative yn cynnig cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd camdriniaeth ddomestig.
- Llinell Gymorth Revenge Porn Mae pornograffi dial yn anghyfreithlon. Cysylltwch â'r llinell gymorth Revenge Porn (gwasanaeth dros e-bost yn unig ydyw ar hyn o bryd) help@revengepornhelpline.org.uk dydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 4pm
FFYNONELLAU ERAILL O GYMORTH:
- Ap Bright Sky. Mae hwn yn edrych fel ap y tywydd felly os oes gan bartner reolaeth dros ddyfeisiau personol, ni ddylid sylwi arno. Mae Bright Sky yn rhoi gwybodaeth am natur cam-drin, dolenni i wybodaeth ac adnoddau, a dyddlyfr diogel i nodi achosion o gamdriniaeth yn gyfrinachol, heb iddo gael ei gadw ar eich dyfais.
- Llawlyfr adnoddau hunangymorth y Survivor’s Handbookhttps://www.womensaid.org.uk/information-support/the-survivors-handbook/
- Mae'rSamariaid ar gael i siarad â nhw am unrhyw beth sy'n eich poeni, does dim ots pa mor fawr neu fach yw'r broblem. Does dim rhaid i chi deimlo fel eich bod am ladd eich hun. Ffoniwch: 116 123. Ar agor ddydd a nos, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn.
- Mae ganBreathing Space ymgynghorwyr profiadol a fydd yn gwrando arnoch chi ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor. Ffoniwch eu llinell gymorth:0800 83 85 87 Oriau Agor: Yn ystod yr wythnos: Dydd Llun i ddydd Iau, 6pm i 2am Penwythnos: Nos Wener 6pm i ddydd Llun 6am.