Dyma rai ffynonellau cyffredinol o gymorth:

· Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y mathau gwahanol o aflonyddu a throseddau casineb y gall pobl eu profi gan gynnwys troseddau casineb anabledd, troseddau casineb hiliol a chrefyddol, aflonyddu rhywiol, a throseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol.

· Cymorth i Ddioddefwyr. Pan fyddwch chi'n rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd, dylai'r heddlu ofyn i chi’n awtomatig a hoffech chi gael cymorth gan sefydliad megis Cymorth i Ddioddefwyr. Ond gall unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd gysylltu â'r sefydliad yn uniongyrchol, felly nid oes rhaid i chi siarad â'r heddlu i gael cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr.

· Argyfwng Trais: Dyma linell ffôn gymorth am ddim sy'n gallu darparu cyngor i fenywod a dynion, ynghyd ag adnoddau ar-lein.

· Cymorth i Ddioddefwyr: Opsiynau o ran cymorth fel dioddefwr trosedd

· Dewisiadau'r GIG: Cymorth ar ôl trais ac ymosodiad rhywiol

· BAWSO: Dyma sefydliad gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau arbenigol ledled Cymru i ddioddefwyr BAME sy'n dioddef cam-drin domestig a phob math o drais neu sydd mewn perygl o ddioddef y rhain

· Cymorth i Fenywod Abertawe: sefydliad i fenywod yn unig yw Cymorth i Fenywod Abertawe, sy'n cefnogi menywod y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt, p'un a oes ganddynt blant ai peidio. 

· Llinell Gymorth: Llinell ffôn gymorth gyfrinachol

· Mind: Elusen iechyd meddwl

· The Survivors Trust: Sefydliadau arbenigol ledled y DU

· Karma Nirvana: Dyma elusen sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod a cham-drin ar sail anrhydedd

· Survivors UK: Dyma linell ffôn gymorth gyfrinachol am ddim i ddynion a bechgyn sy'n ymdopi ag effeithiau trais rhywiol

· LifeCentre – Llinellau cymorth a chymorth ar-lein i ddioddefwyr camymddygiad rhywiol

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd