Rydym yn cydnabod gwerth y gwasanaethau y mae sefydliadau arbenigol yn eu darparu i'r sawl sydd wedi dioddef ymddygiad annerbyniol, trais ac aflonyddu.

Gweler isod restr o wasanaethau cenedlaethol efallai y byddwch chi neu rywun sy'n agos atoch am gael mynediad atynt...
  • Mae'r Samariaid yn darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sy'n profi anawsterau emosiynol neu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi neu sydd mewn perygl o ladd ei hun yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Ffoniwch 116 123, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
  • Mae Mermaids wedi bod yn helpu plant a phobl ifanc rhywedd-amrywiol a'u teuluoedd ers 1995
  • Mae The Havens yn cynnig cymorth arbenigol i bobl sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad rhywiol. Am gyngor ac apwyntiadau brys, ffoniwch 020 3299 6900.
  • Mae Solace yn darparu cyngor a chymorth i fenywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol. 
  • Mae Galop yn elusen sy'n cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, pobl draws a chwiar sydd wedi dioddef trais rhywiol a domestig. 
  • Mae Survivors UK yn cynnig gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau cwnsela i ddynion a bechgyn sydd wedi dioddef trais neu gam-drin rhywiol. 
  • Mencap yw llais arweiniol anabledd dysgu.
  • Mae Deaf Plus yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i'n cleientiaid i ddatblygu eu potensial ac i hybu annibyniaeth a lles.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd