Rydym yn ymwybodol o’r ffaith bod llawer o ffactorau a rhesymau pam byddai myfyrwyr yn dewis oedi wrth ddatgelu a/neu adrodd am ymddygiad annerbyniol maent wedi ei ddioddef neu’n dewis peidio â’i ddatgelu o gwbl. Lle bynnag rydych chi, neu lle hoffech chi fod yn eich proses, rydyn ni’n deall a byddwn ni’n eich cefnogi chi wrth i chi gymryd y camau nesaf.

P’un a ydych chi’n dewis datgelu ai peidio, rydym yn gweithio i leihau’r rhwystrau i ddatgelu ac adrodd er mwyn i ni gynnig y cymorth mwyaf priodol i chi. Rydym wedi amlygu isod ychydig rwystrau i ddatgelu ac adrodd am gamymddygiad rhywiol a sut y gallwn ni eich cefnogi i oresgyn y rhain. Mae’n bwysig nodi nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.  

Rwy’n poeni na fydd neb yn fy nghredu.

Rydym yn gwybod nad yw pobl yn dweud celwydd wrth adrodd am ymddygiadau annerbyniol yn y rhan fwyaf o achosion ond, yn anffodus, oherwydd mythau cymdeithasol am rai mathau o ddigwyddiadau (megis camymddygiad rhywiol ac ymosod rhywiol) weithiau mae pobl sy’n adrodd yn teimlo na fydd neb yn eu credu. 

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r staff sy’n ymdrin â datgelu, megis ein Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO) wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ymdrin â datgelu ac maen nhw’n sicrhau nad yw myfyrwyr yn teimlo fel bod neb yn eu credu drwy gydol y broses gymorth neu ymchwilio, ni waeth sut byddant yn dewis gweithredu. Rydym hefyd yn gweithio ar lunio arweiniad a’i ddarparu i’r holl aelodau staff sy’n ymdrin â datgelu. 

Fel rhan o’n gwaith i fynd i’r afael â chamymddygiad rhywiol, rydym yn gweithio ar lunio hyfforddiant, ymgyrchoedd ac adnoddau ar bynciau gwahanol gan gynnwys mythau ynghylch camymddygiad rhywiol, ymyriadau gan wylwyr a chydsyniad.   

Rwyf wedi dweud wrth rywun yn y gorffennol, ond wnaeth ef ddim fy nghymryd i o ddifrif a/neu ddigwyddodd dim byd. 

Rydym yn deall y gall fod yn ofidus os ydych chi wedi datgelu eich profiad i rywun yn y gorffennol a naill ai chawsoch chi ddim eich credu neu chafodd dim ei wneud. Mae diffyg ymddiriedaeth yn ymateb y Brifysgol, yr heddlu (os yw’r heddlu wedi cael eu cynnwys) a’r gymdeithas ehangach yn ddealladwy, yn enwedig os ydych chi wedi cael profiad negyddol yn y gorffennol. Efallai eich bod chi’n ofni bydd rhywun yn rhoi taw arnoch chi, yn eich anwybyddu neu hyd yn oed y byddwch chi’n colli rheolaeth ar y sefyllfa.

Os byddwch chi’n dewis datgelu ac yn cytuno bod rhywun yn cysylltu â chi, bydd SVLO yno i wrando a thrafod eich opsiynau’n llawn. Bydd y swyddog yn gwrando ar eich profiad blaenorol ac yn eich helpu chi i ddeall y cymorth gallwch chi ei dderbyn yn y Brifysgol ac yn allanol. 

Rwy’n bryderus efallai bydd hyn yn effeithio ar fy ngyrfa/astudiaethau yn y dyfodol neu bydd pobl yn fy ngalw i’n achoswr trwbl.

Ofn dial yw’r ofn y bydd canlyniadau negyddol am ddatgelu digwyddiad. Gallai hyn gynnwys yr ofn y byddai’r adroddiad yn effeithio ar ragolygon o ran gyrfa, astudiaethau a bywyd cymdeithasol naill ai oherwydd y gallech gael eich eithrio o grŵp neu dîm, neu fod yn destun clebran neu gallech chi boeni y byddai’r person sy’n destun yr adroddiad yn dod atoch chi neu’n eich bygwth. 

Gan na fydd cyflwyno adroddiad datgelu’n cychwyn ymchwiliad ffurfiol, ni fydd yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei rhannu y tu hwnt i’r staff perthnasol heb eich cydsyniad oni bai eich bod chi neu rywun arall mewn perygl sylweddol. Byddwn yn parchu eich cyfrinachedd.

Rydym yn deall efallai bydd eich ofn dial yn cynyddu os byddwch chi’n penderfynu cymryd camau gweithredu ffurfiol i adrodd i’r heddlu neu’r Brifysgol. Bydd SVLO yn hapus i gael sgwrs anffurfiol â’r myfyriwr sy’n datgelu digwyddiad cyn i gwynion ffurfiol gael eu cyflwyno. Unwaith y caiff cwyn ffurfiol ei chyflwyno, gall y Brifysgol roi cymorth parhaus i chi drwy gydol y broses. Gallwn hefyd roi addasiadau ar waith yn ystod ymchwiliadau ffurfiol, megis sicrhau llety diogel, addasiadau academaidd a gwiriadau lles.

Os byddwch chi’n profi dial, gallwch gael cymorth gan SVLO. Rydym am newid y diwylliant, nid yn unig i atal digwyddiadau ond hefyd i hyrwyddo amgylchedd lle na fydd myfyrwyr sy’n datgelu digwyddiadau’n ofni dial.

Rwy’n teimlo’n annifyr /â chywilydd/yn euog

Yn anffodus, mae’n gyffredin iawn teimlo’n llawn cywilydd neu’n euog neu’n annifyr pan fyddwch chi’n profi’r mathau hyn o ddigwyddiadau. Efallai byddwch chi’n teimlo mai eich bai chi yw hyn neu’n beio eich hun. Yn achos camymddygiad rhywiol, mae’r teimladau hyn yn cael eu hatgyfnerthu gan fythau cymdeithasol a chamwybodaeth yn y cyfryngau sydd yn aml yn symud y bai ac yn gwneud i chi deimlo fel dylech chi fod wedi gallu atal digwyddiad neu ddylech chi ddim ei gymryd o ddifrif. 

Yn ein cymuned, rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i greu ymgyrchoedd ac adnoddau i gynyddu ymwybyddiaeth i fynd i’r afael â’r mythau hyn. Mae angen newid y diwylliant ac rydym am fod yn rhan o hynny.

Gall ein Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol hefyd eich helpu chi i ddeall a goresgyn y teimladau hyn drwy eich cyfeirio chi at wasanaethau cwnsela neu iechyd meddwl Tîm Cymorth a Lles y Myfyrwyr. Mae gennym hefyd dudalen gymorth ar fynd i’r afael â mythau am gamymddygiad rhywiol.

Cofiwch nad ydych chi byth ar fai yn yr amgylchiadau hyn. Y sawl sy’n cyflawni’r drosedd sydd ar fai.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd