Beth gallwch chi ei wneud i helpu?
 
Os oes rhywbeth wedi effeithio ar rywun rydych chi'n ei adnabod, gallwch chi wneud y canlynol: 
  • Dangos bod lles eich ffrind yn bwysig i chi - Gadewch i'ch ffrind wybod eich bod chi'n poeni a'ch bod chi yno i wrando.
  • Bod yn wrandäwr gweithredol - Cofiwch ofyn i’ch ffrind beth fyddai'n ei helpu. Peidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod chi'n gwybod beth sydd ei angen ar eich ffrind. (Dyma fideo byr ar sut i fod yn wrandäwr gweithredol da). 
  • Cadw mewn cysylltiad – Cysylltwch â'ch ffrind yn rheolaidd a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod eich bod chi yno.
  • Helpu’ch ffrind i gael cymorth.
Cofiwch, efallai nad yw eich ffrind am adrodd am yr ymosodiad i'r heddlu na'r Brifysgol. Ceir llawer o resymau pam na fyddai rhywun am adrodd am y digwyddiad megis:
  • Yn y rhan fwyaf o achosion o ymosodiad rhywiol, mae'r dioddefwr yn adnabod yr ymosodwr 
  • Efallai fod eich ffrind yn poeni na fydd neb yn eu credu
  • Efallai bydd yn poeni am bwy arall fydd yn cael gwybod am y digwyddiad
  • Efallai fod ofn ar eich ffrind neu efallai nad yw’n deall y system cyfiawnder troseddol neu'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n adrodd am ddigwyddiad i'r Brifysgol
  • Os cymerwyd cyffuriau neu alcohol, efallai na fydd am adrodd am y digwyddiad rhag ofn y bydd mewn trafferth hefyd
Yn y pen draw, dewis y dioddefwr yw beth i'w ddatgelu ac i bwy.
 

Os nad yw am gael cymorth, gallwch chi ei annog i gyflwyno adroddiad ar-lein. Fel arall, gallwch chi ddatgelu gwybodaeth yn ddienw a fydd yn ein galluogi ni i ymchwilio a oes llawer o ddigwyddiadau mewn un ardal. 
 
Gallwch chi hefyd ddarllen ein tudalen ‘pa gymorth sydd ar gael i mi’ a'i dangos i'ch ffrind.

Sut i gael cymorth i chi eich hun
 
Yn y bôn, cyfrifoldeb yr unigolyn yw cadw ei hun yn ddiogel ac yn hapus, ond dyma ychydig ffyrdd o gefnogi eich ffrindiau'n effeithiol.
  • Byddwch yn onest o ran eich cyfyngiadau ar amser a gosod ffiniau
  • Anogwch eich ffrind i feithrin rhwydwaith cymorth gan gynnwys ffrindiau eraill a theulu
 
O'r diwedd, gofalwch amdanoch chi eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried eich lles eich hun ac, os oes angen cymorth arnoch chi, gofynnwch amdano. Dyma ychydig o wasanaethau defnyddiol yn y Brifysgol a allai fod o gymorth.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd