Nid yw unrhyw fath o gamymddygiad, ymosodiad nac aflonyddu rhywiol byth yn dderbyniol.

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef unrhyw fath o gamymddygiad rhywiol, gan gynnwys aflonyddu, ymosodiad neu drais, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud na sut i deimlo.

Ni waeth ble roeddech chi neu beth roeddech chi’n ei wneud, beth roeddech chi’n ei wisgo neu’n ei ddweud, p’un a oeddech chi wedi meddwi neu dan ddylanwad cyffuriau, nid eich bai chi oedd hyn.

Ble i ddechrau

 Ydych chi mewn perygl nawr?
· Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi’ch anafu’n ddifrifol, gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau brys drwy ffonio 999 (neu 112 ar ffôn symudol).

· Os ydych chi ar y campws, gallwch chi hefyd gysylltu â Gwasanaethau Diogelwch y Campws – drwy ffonio 333 o unrhyw ffôn fewnol , 01792513333 o ffôn symudol  neu gan ddefnyddio’n ap SafeZone.

Os nad ydych chi mewn perygl nawr
• Dewch o hyd i fan diogel – Os oes digwyddiad newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle diogel.
• Dywedwch wrth eich hun – Weithiau, y person cyntaf mae’n rhaid i ddioddefwr ddatgelu iddo yw ei hun. Yn rhy aml, gall dioddefwyr fewnoli negeseuon megis doedd hi ddim “cynddrwg” neu rywsut mai nhw sydd ar fai.
• Ceisiwch siarad â rhywun – dylech chi ystyried gofyn i ffrind neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo aros gyda chi.
• Ceisiwch ofal meddygol – hyd yn oed os nad oes anafiadau amlwg neu dydych chi ddim am adrodd am yr ymosodiad i’r heddlu, mae’n bwysig i chi geisio gofal meddygol os yw’r ymosodiad newydd ddigwydd. Gallwn ni eich helpu chi gyda hyn drwy eich cyfeirio chi at y Ganolfan Ymateb i Ymosodiad Rhywiol lleol.

Beth i'w wneud nesaf 
  • Adrodd – Gall myfyrwyr adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio offeryn Adrodd a Chymorth Prifysgol Abertawe. Gallwch chi ddewis gwneud hyn yn ddienw neu gallwch chi ddweud wrthym beth ddigwyddodd a gofyn am gymorth gan Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO). 
*Sylwer, nid yw defnyddio’r offeryn adrodd a chymorth yn golygu bod cwyn ffurfiol wedi’i chyflwyno i’r Brifysgol am unrhyw unigolyn arall. Bydd eich Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol yn gallu trafod hyn â chi’n fanylach.

Pethau eraill i’w hystyried
 
Tystiolaeth
 
Er y gall fod yn annifyr, os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol, mae’n bwysig iawn i chi gadw unrhyw dystiolaeth a allai helpu’r heddlu yn eu hymchwiliadau.
 
Er mwyn i chi gadw tystiolaeth nes bod yr heddlu wedi cyrraedd, dylech chi geisio peidio â gwneud y canlynol:
  • Defnyddio’r toiled neu daflu dillad isaf neu gynnyrch mislif
  • Ymolchi, cael cawod neu fath, neu eillio
  • Golchi eich dwylo
  • Tynnu, golchi, taflu neu ddinistrio dillad roeddech chi’n eu gwisgo neu lieiniau gwely a thyweli a ddefnyddiwyd ar adeg y digwyddiad neu ar ôl y digwyddiad
  • Yfed na bwyta unrhyw beth, gan gynnwys meddyginiaeth nad yw’n hanfodol
  • Glanhau eich dannedd
  • Smygu
  • Tarfu ar y lleoliad na chaniatáu i bobl eraill neu anifeiliaid ddod i’r ardal lle bu’r digwyddiad, pan fo’n bosib.
Dylid cadw tystiolaeth nad yw’n ddiriaethol megis testunau perthnasol, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac e-byst.

Meddyginiaeth a chyffuriau 
  • Os ydych chi’n meddwl bod unrhyw fath o gyffur wedi cael ei roi i chi, y peth gorau i’w wneud yw cael eich profi o fewn 24 awr
  • Os oes angen atal genhedlu brys arnoch chi, dylech chi gymryd y feddyginiaeth o fewn 72 awr
  • Os hoffech chi gymryd cyffuriau atal HIV, dylech chi gymryd y feddyginiaeth o fewn 36 awr
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd