Beth yw Adrodd a Chymorth?
 
Offeryn ar-lein a ddatblygwyd gan Culture Shift yw Adrodd a Chymorth, lle gall  a myfyrwyr adrodd am ddigwyddiadau o gamymddygiad rhywiol yn ddienw neu drwy gysylltu â chynghorydd i drafod hyn. Mae Adrodd a Chymorth hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gymorth, polisïau a gweithdrefnau mewnol ac allanol.

Pwy sy'n gallu cyflwyno adroddiad?
 
Gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe gyflwyno drwy Adrodd a Chymorth. Gallwch chi gyflwyno adroddiad ar eich rhan chi neu ar ran myfyriwr arall.  
 
Ydy'n wir bod myfyrwyr yn gallu adrodd am bethau a ddigwyddodd ar y campws neu yn nigwyddiadau’r Brifysgol yn unig?
 
Nac ydy. Gall myfyrwyr adrodd am ddigwyddiadau o gamymddygiad rhywiol iddyn nhw ni waeth ble ddigwyddodd hyn.
 
Beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn cyflwyno adroddiad yn ddienw?
 
Bydd un o’r gweinyddwyr yn gweld yr adroddiad (gweler isod restr o weinyddwyr).
 
Mae'r wybodaeth yn hanfodol i'r Brifysgol fonitro tueddiadau a datblygu ymatebion.
 
Caiff yr adroddiadau dienw eu hychwanegu at gronfa ddata a fydd yn galluogi'r Brifysgol i nodi patrymau dros amser, ac felly i ddatblygu cynlluniau a dyrannu adnoddau er mwyn iddi ymdrin â phroblemau penodol. 
 
Er ei bod hi'n bosib na fyddai'r Brifysgol yn gallu cymryd camau gweithredu o ran adroddiad dienw penodol, mewn sawl achos, yr adroddiadau dienw hyn fydd yr unig ffordd i'r Brifysgol wybod pa fathau o gamymddygiad rhywiol sy'n digwydd ar y campws. Felly, maent yn rhan hanfodol o'n hymdrechion i ddod â'r ffurfiau hyn o gam-drin i ben. 
 
Gall adroddiadau dienw ddarparu cipolwg ar yr hyn sy'n digwydd yn y Brifysgol mewn gwirionedd ac felly maent yn hollbwysig er mwyn i'r Brifysgol gymryd gamau gweithredu ar y cyd. Yn wir, dyma pam mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu'r system Adrodd a Chymorth. 
 
Yn bwysicaf, os ydych chi wedi gweld neu brofi rhywbeth sy'n ddigon difrifol i'ch poeni neu'ch cynhyrfu chi, mae'r Brifysgol am wybod amdano a dylech chi gyflwyno adroddiad am hyn.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng adroddiadau dienw ac adroddiadau sydd at sylw cynghorwyr?
 
Nid yw Prifysgol Abertawe yn gwybod pwy sydd wedi cyflwyno adroddiad dienw ac felly nid yw'n gallu cysylltu na rhoi cymorth y tu hwnt i'r tudalennau a'r adnoddau sydd ar y platfform hwn. Yn hytrach, caiff yr adroddiad ei ychwanegu at y gronfa ddata sy'n galluogi'r Brifysgol i nodi patrymau er mwyn datblygu cynlluniau a dyrannu adnoddau i fynd i'r afael ag ymddygiad negyddol. 
 
Ond os bydd rhywun am dderbyn cymorth neu ystyried opsiynau anffurfiol neu ffurfiol i fynd i'r afael â'r broblem, byddai'n cyflwyno adroddiad a enwyd ac yn siarad â chynghorydd.
 
Rwyf wedi cyflwyno adroddiad gyda'm manylion cyswllt – beth sy'n digwydd nesaf?
 
Lle bydd myfyriwr sy'n cyflwyno adroddiad yn nodi ei fod am siarad â rhywun, bydd gweinyddwr Adrodd a Chymorth yn neilltuo'r achos i Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO). Rhoddir manylion mewngofnodi i bob SVLO a chaiff fynediad at yr achosion a neilltuir iddo ef yn unig.
 
Bydd yr SVLO yn adolygu'r achos ac yna'n cysylltu â chi i drefnu cyfarfod i drafod eich adroddiad, cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad ac i drafod opsiynau sydd ar gael i chi o ran cyflwyno adroddiad.
 
Nid yw siarad â chynghorydd yn golygu eich bod chi'n cyflwyno adroddiad ffurfiol i'r Brifysgol; pwrpas hwn yw eich galluogi chi i gael mynediad at y gefnogaeth y mae ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus.
 
Beth rydych chi'n ei wneud gyda'r data a gesglir gan adroddiadau sydd at sylw cynghorwyr?
 
Defnyddir y data a gesglir gan y platfform Adrodd a Chymorth i lunio adroddiadau blynyddol dienw. Bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys nifer yr achosion, y mathau o aflonyddu yr adroddir amdano'n fwyaf aml a'r lleoliad.
 
Pa gamau gweithredu allwch chi eu cymryd yn sgîl adroddiadau dienw?
 
Caiff yr wybodaeth a ddarperir mewn adroddiadau dienw ei hychwanegu at gronfa ddata y bydd y Brifysgol yn ei monitro am dueddiadau a phatrymau o gamymddygiad rhywiol ac ymddygiadau amhriodol eraill. Bydd hyn yn rhoi trosolwg cyffredinol i'r Brifysgol o gyfradd ac amlder y mathau hyn o gam-drin yn y Brifysgol, a fydd yn ei dro'n llywio strategaethau'r Brifysgol i atal, rhwystro a chael gwared ar y mathau hyn o gam-drin. 
 
Mewn llawer o achosion, yr adroddiadau dienw hyn fydd yr unig ffordd i'r Brifysgol gael gwybod pa fath o gam-drin sy'n digwydd, pa mor aml, ble, pryd ac i bwy ac ati. Felly, maent yn hynod bwysig i ymdrechion y Brifysgol i ddod â'r mathau hyn o gam-drin i ben.

Beth rydych chi'n ei wneud gyda'r wybodaeth a gesglir gan adroddiadau dienw?
 
Caiff yr wybodaeth a ddarperir mewn adroddiadau dienw ei hychwanegu at gronfa ddata y bydd y Brifysgol yn ei monitro am dueddiadau a phatrymau o gamymddygiad rhywiol ac ymddygiadau amhriodol eraill. Bydd hyn yn rhoi trosolwg cyffredinol i'r Brifysgol o gyfradd ac amlder y mathau hyn o gam-drin yn y Brifysgol, a fydd yn ei dro'n llywio strategaethau'r Brifysgol i atal, rhwystro a chael gwared ar y mathau hyn o gam-drin. 
 
Mewn llawer o achosion, yr adroddiadau dienw hyn fydd yr unig ffordd i'r Brifysgol gael gwybod pa fath o gam-drin sy'n digwydd, pa mor aml, ble, pryd ac i bwy ac ati. Felly, maent yn hynod bwysig i ymdrechion y Brifysgol i ddod â'r mathau hyn o gam-drin i ben.
 
Sut bydd Prifysgol Abertawe'n ymdrin â chwynion maleisus?

Os canfyddir bod adroddiad yn un maleisus neu flinderus, ymdrinnir ag adroddiadau o'r fath yn unol â gweithdrefnau myfyrwyr a staff presennol.
 
Pa mor ddiogel yw'r data a'r wybodaeth a anfonir drwy'r system?

Mae'r data sy'n cael ei gadw ar y platfform Adrodd a Chymorth yn cydymffurfio â rheoliadau GDPR ac  ychwanegol rhagor o wybodaeth am sut mae data yn cael ei gasglu a'i gadw yn yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae'r system wedi cael ei phrofi am ddiogelwch gan y datblygwr, Culture Shift a chan y Brifysgol.
 
Am ba mor hir mae data'n cael ei gadw ar y system?

Byddwn yn cadw'ch data personol dim ond am y cyfnod angenrheidiol i gyflawni ein dibenion dros ei gasglu. Byddwn yn cadw cofnodion am flwyddyn ar ôl cau'r achos ar y system Adrodd a Chymorth fel yr amlinellir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd. Cedwir yr holl ddata personol yn unol â'r Amserlen Cadw Cofnodion.
 
Pwy yw'r gweinyddwyr ar y system?
 
Mae'r system yn cael ei gweinyddu gan: 

·       Nicky Billingham, n.a.billingham@abertawe.ac.uk
·       Aoife Clarke, Aoife.clarke@abertawe.ac.uk
·       Ffion Davies, Ffion.Davies@abertawe.ac.uk 



Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd