Myth: Ddylai rhywun sy’n yfed neu’n cymryd cyffuriau o’i wirfodd ddim cwyno os bydd rhywun yn ei dreisio neu’n ymosod arno’n rhywiol.
Ffaith: Yn ôl y gyfraith, rhoddir cydsyniad i ryw pan fydd rhywun yn cytuno drwy ddewis a chan feddu ar y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Os yw person yn anymwybodol neu’n analluog oherwydd alcohol neu gyffuriau, nid yw’n gallu rhoi cydsyniad i gael rhyw. Trais yw cael rhyw gyda rhywun sy’n analluog oherwydd alcohol neu gyffuriau. Does neb yn gofyn i rywun ei dreisio neu ymosod arno’n rhywiol a does neb yn haeddu hynny; yr ymosodwr sydd 100% yn gyfrifol. Mae gan bawb yr hawl i fyw ei fywyd heb ofni neu brofi trais rhywiol. 

Myth: Mae camymddygiad rhywiol yn gorfod cynnwys cyffwrdd.
Ffaith:  Dyw hyn ddim yn wir, gall camymddygiad rhywiol gynnwys sylwadau annymunol ac amhriodol, gweiddi pethau anweddus, jôcs rhywiol ac anfon negeseuon rhywiol eglur/awgrymog yn rhywiol.

Myth: '‘Roedd yn gompliment / dim ond jôc oedd ef’
Ffaith:  Hyd yn oed os yw person yn bwriadu i’w ymddygiad fod yn ganmoliaethus/ddoniol, efallai bydd yn sarhaus i bobl eraill.

Myth: Mae pobl yn aml yn dweud celwydd wrth honni eu bod wedi’u treisio oherwydd eu bod nhw eisiau sylw neu ddial – neu am eu bod nhw’n difaru cael rhyw gyda rhywun
Ffaith:  Mae ffocws anghymesur y cyfryngau ar honiadau anghywir o drais yn hybu canfyddiad y cyhoedd ei bod hi’n gyffredin i ddweud celwydd ynghylch trais rhywiol ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir. Mae honiadau anghywir o drais yn brin iawn. Mae’r rhan fwyaf o oroeswyr yn dewis peidio ag adrodd i’r heddlu. Un rheswm sylweddol am hyn yw’r ofn na fydd neb yn eu credu. Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n herio’r myth hwn fel y gall y rhai sydd wedi profi trais rhywiol gael y cymorth a’r cyfiawnder y mae eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.
 
Myth:  Mae pobl sy’n gwisgo dillad sy’n dangos popeth yn ‘gofyn amdani’
Ffaith: Does neb byth yn gofyn i rywun arall aflonyddu nac ymosod arno’n rhywiol neu ei dreisio. Does dim esgus na ffactorau lliniarol, ac nid yw’r dioddefwr/goroeswr byth ar fai. Mae dillad neu ymddygiad rhywun yn ystod y digwyddiad yn amherthnasol. 

Myth: Mae dynion o hiliau a chefndiroedd penodol yn fwyaf tebygol o gyflawni gweithredoedd o gamymddygiad rhywiol
Ffaith: Does dim ymosodwr nodweddiadol. Mae pobl sy’n cyflawni gweithredoedd o gamymddygiad rhywiol yn dod o bob grŵp economaidd, ethnig, hiliol, cymdeithasol a phob grŵp oedran.

Myth: Nid yw dynion yn cael eu treisio ac nid yw menywod yn cyflawni troseddau rhywiol
Ffaith: Mae’r rhan fwyaf o ymosodiadau rhywiol ac achosion o drais yn cael eu cyflawni gan ddynion yn erbyn menywod a phlant ond mae menywod yn cyflawni trais rhywiol. Gall unrhyw ddyn neu fachgen ddioddef ymosodiad rhywiol, ni waeth beth yw ei faint, ei gryfder neu sut mae’n edrych. Yn aml, mae pobl sydd wedi dioddef ymosodiad neu gam-drin rhywiol gan fenyw yn arbennig o ofnus na fydd neb yn eu credu neu na fydd pobl yn ystyried bod eu profiadau ‘cynddrwg â thrais a gyflawnwyd gan ddyn. Gall hyn ei gwneud hi’n arbennig o anodd i’r goroeswyr hyn gael mynediad at wasanaethau neu gyfiawnder. 

Myth: Mae pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant yn debygol o gyflawni cam-drin rhywiol eu hunain. 
Ffaith: Dyma fyth peryglus sy’n cael ei ddefnyddio weithiau i geisio esbonio neu esgusodi ymddygiad y sawl sy’n treisio ac yn cam-drin plant yn rhywiol. Mae’n sarhaus ac nid yw’n helpu oedolion sy’n oroeswyr cam-drin rhywiol yn eu plentyndod. Ni fydd y rhan fwyaf llethol o’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant byth yn cyflawni trais rhywiol yn erbyn pobl eraill. Does dim esgus nac esboniad am drais rhywiol yn erbyn plant nac oedolion. 

Myth: Os yw dau berson wedi cael rhyw gyda’i gilydd o’r blaen, mae hi bob amser yn iawn iddyn nhw gael rhyw eto
Ffaith: Os yw person mewn perthynas â rhywun arall, neu wedi cael rhyw gyda’r person arall o’r blaen, dyw hyn ddim yn golygu na all ddioddef ymosodiad rhywiol neu gael ei dreisio gan y person hwnnw. Rhaid rhoi a derbyn cydsyniad bob tro bydd dau berson yn cael rhyw. Mae’n bwysig gofyn a yw ein partneriaid rhywiol yn iawn a gwneud yn siŵr bod y ddau ohonom yn cydsynio i unrhyw beth rhywiol sy’n digwydd rhyngom, bob tro. 

Myth: Unwaith bod dyn wedi’i gynhyrfu’n rhywiol, nid yw’n gallu helpu ei hun; mae’n gorfod cael rhyw.
Ffaith: Gall dynion reoli eu hawydd i gael rhyw yr un fath â menywod; does dim angen i neb dreisio rhywun arall am foddhad rhywiol. Mae trais yn weithred dreisgar i reoli person arall, nid boddhad rhywiol. Does dim eglurhad derbyniol nac esgusodion.

Myth: Mae menywod yn fwyaf tebygol o gael eu treisio gyda’r nos gan ddieithryn, felly ddylai menywod ddim mynd allan ar eu pennau eu hunain gyda’r nos. 
Ffaith: Oddeutu 10% yn unig o achosion o drais sy’n cael eu cyflawni gan ‘ddieithriaid’. Mae tua 90% o achosion o drais yn cael eu cyflawni gan ddynion sy’n adnabyddus i’r goroeswr ac, yn aml, gan rywun y mae’r goroeswr wedi ymddiried ynddo neu hyd yn oed ei garu o’r blaen. Mae pobl yn cael eu treisio yn eu cartrefi, eu gweithleoedd a lleoliadau eraill lle roeddent yn teimlo’n ddiogel o’r blaen. Gall ymosodwyr fod yn ffrindiau, yn gydweithwyr, yn gleientiaid, yn gymdogion, yn aelodau teulu, yn bartneriaid neu’n gyn-bartneriaid. Ni ddylai’r risg o drais gael ei defnyddio fel esgus i reoli symudiadau menywod a chyfyngau ar eu hawliau a’u rhyddid. 

Myth: Ddylai dioddefwyr ddim cwyno o gamymddygiad rhywiol pan fyddant yn ‘taflu eu hunain’ at eu hathrawon/pobl sydd â phŵer.
Ffaith: Mae prifysgol yn lle hierarchaidd sy’n cynnwys strwythurau pŵer serth. Mae gan bobl sydd â dylanwad a bri ynghlwm wrth eu swyddi, megis darlithwyr ac athrawon, uwch-aelodau staff, arweinwyr labordai, aelodau pwyllgorau clybiau a chymdeithasau etc. ddylanwad anghymesur ar fyfyrwyr ac aelodau staff iau. Cyfrifoldeb y person sydd â phŵer yw gosod ffiniau amlwg a pheidio â cham-drin neu feithrin perthynas amhriodol â myfyrwyr neu aelodau staff iau y mae’n hawdd gwneud argraff arnynt. Pŵer a rheolaeth sydd bob amser wrth wraidd camymddygiad rhywiol yn hytrach nag atyniad rhywiol.
 
Myth: Mae pobl LDHT+ yn profi llai o drais rhywiol na’r boblogaeth gyffredinol.
Ffaith:
Mae pobl LDH+ yn profi lefelau tebyg neu uwch o drais rhywiol.

Myth: Mae cynnwrf ffisiolegol/codiad/gwlychu’n golygu eich bod chi wedi cydsynio i ryw.
Ffaith: Mae ymateb ffisiolegol yn aml yn digwydd oherwydd cyswllt corfforol yn unig neu straen eithafol. Nid yw hyn yn golygu eich bod chi eisiau’r profiad neu wedi ei fwynhau. Mae llawer o gamdrinwyr yn defnyddio cynnwrf corfforol fel esgus i baratoi/berswadio eu dioddefwyr i gredu eu bod nhw wedi mwynhau’r profiad rhywsut, sy’n digalonni pobl ymhellach ac yn eu hatal rhag gofyn am gymorth. Gall person ymateb yn unrhyw un o bum ffordd (rhewi, ymladd, ffoi, mynd yn llipa, esgus bod yn ffrind) i weithred o drais rhywiol, ac nid yw ymatebion ffisiolegol yn cyfleu cydsyniad i’r weithred mewn unrhyw ffordd. 


* Diolch i Sefydliad Argyfwng Trais Cymru a Lloegr a Survivors UK am beth o’r wybodaeth a gynhwysir yn yr erthygl hon.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd