Ar hyn o bryd, nid oes diffiniad statudol o Gam-drin ar sail Anrhydedd yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, cydnabyddir yn eang ei fod yn "ffurf ar gam-drin domestig sy'n cael ei ystyried yn aml i fod yn ddiwylliannol, yn draddodiadol neu'n grefyddol"

Gall arwain at fath o reolaeth dan orfodaeth sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn, yn seiliedig ar ddisgwyliadau am ymddygiadau derbyniol ac annerbyniol.

Yn aml mae'r tramgwyddwyr yn aelodau'r teulu, yn bartneriaid neu'n gyn-bartneriaid neu'n rhan o’r cymunedau ehangach. Mae rheolaeth yn aml yn datblygu heb drais amlwg yn erbyn y dioddefwr e.e, gall aelodau'r teulu fygwth lladd eu hunain, gallent anwybyddu neu ddiarddel y dioddefwr.

Mae rhai cymunedau'n ystyried bod 'anrhydedd' yn bwysicach na diogelwch a lles unigolion. Mae niweidio 'anrhydedd y teulu' yn dwyn anfri, sy'n gallu arwain at ganlyniadau difrifol, ac weithiau fe'i defnyddir i gyfiawnhau cam-drin emosiynol a chorfforol, diarddel rhywun a hyd yn oed llofruddiaeth.

Mae'r rhestr isod yn cynnwys rhai o'r ffurfiau mwyaf cyffredin ar gam-drin ar sail anrhydedd ond nid yw'n gynhwysfawr:

  • ·Priodas dan Orfod: Gorfodi unigolion i briodi'n groes i'w hewyllys, yn aml i gynnal anrhydedd teuluol neu gryfhau cysylltiadau cymdeithasol.
  • Pwysau seicolegol: Monitro caeth, bychanu, bygythiadau
  • Anffurfio/Torri Organau Cenhedlu Benywod (FGM/C): Torri organau cenhedlu benywod yn rhannol neu'n gyfan gwbl. Mae'n cael ei wneud yn aml i reoli rhywioldeb benyw a diogelu anrhydedd y teulu.
  • Cam-drin mewn Perthynas â Gwaddol: Gweithredoedd treisgar, cam-drin emosiynol ac ariannol neu aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhoi neu dderbyn gwaddol. Gall camdriniaeth sy'n ymwneud â gwaddol ddigwydd cyn, yn ystod neu ar ôl y briodas.
  • Profion gwyryfdod
  • Gorfodi erthyliad
  • Camdriniaeth gorfforol a geiriol
  • Cadw rhywun dan glo
  • Herwgydio
  • Cam-drin Rhywiol
  • Rheolaeth drwy Orfodaeth
  • Llofruddiaeth neu "Ladd ar sail Anrhydedd": Mewn achosion eithafol, os credir bod unigolion wedi dwyn anfri ar eu teulu, gallent gael eu llofruddio. Ystyrir bod y gweithredoedd eithafol hyn yn ffordd i'r teulu adennill eu hanrhydedd a chyfeirir atynt yn aml fel “lladd ar sail anrhydedd,"

Ydych chi mewn perygl nawr?

Ewch i le diogel - os yw'r ymddygiad newydd ddigwydd, ewch i rywle diogel lle mae pobl eraill, e.e. y llyfrgell ar y campws, siop neu gaffi os yw mewn man cyhoeddus.

Os ydych chi mewn perygl nawr neu wedi'ch anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol). Os ydych chi'n drwm eich clyw, lawrlwythwch yr ap  999 BSL.  

Os ydych chi ar y campws, cysylltwch â Gwasanaethau Diogelwch y Campws drwy ap Safezone, deialu 333 o unrhyw ffôn mewnol neu 01792 513333 ar ffôn symudol.

 

 Os nad ydych chi mewn perygl nawr, mae gennych amser i ystyried eich opsiynau.

Does dim ffordd gywir nac anghywir o ymateb, beth bynnag sydd orau i chi sy'n bwysig. Efallai bydd yn helpu i siarad â rhywun; gallech chi siarad â ffrind, aelod o'r teulu, sefydliad proffesiynol, e.e. karma nirvana  neu gallech chi gysylltu â staff arbenigol yn y brifysgol drwy'r wefan Adrodd a Chymorth. Mae rhagor o opsiynau isod: -

  • Gallwch chi wneud datgeliad ag enw: I gael cymorth gan Ymgynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliad (SDRA) yn y Brifysgol, gallwch wneud datgeliad gan roi eich enw drwy ddefnyddio'r wefan Adrodd a Chymorth. Sut gall SDRA eich cefnogi? (link)

  • Make an anonymous disclosure, option is also available via the Report & Support platform, whereby you can disclose your experience without identifying yourself, and the information will be used to understand patterns of behaviour that impact on our students. If you make an anonymous disclosure, you will not be contacted, and formal action may not be taken.

  • Dyma fanylion am gymorth ychwanegol gallwch chi ei ystyried. ·Cymorth ar gyfer trais domestig a cham-drin ar sail anrhydedd

Opsiynau Adrodd - Chi sy'n Penderfynu

Nid adroddiad swyddogol yw datgeliad ac ni fydd yn arwain at weithredu ffurfiol. Chi sy'n penderfynu gwneud adroddiad neu beidio. Ni ddylai neb arall wneud y penderfyniad hwnnw i chi, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad.

  • ·Rhoi Gwybod i'r Heddlu: Eich penderfyniad chi yw cysylltu â'r Heddlu ai peidio. Er nad oes trosedd benodol o 'gamdriniaeth ar sail anrhydedd', yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae'n groes i hawliau dynol a gall fod yn ffurf ar drais domestig a/neu rywiol. Felly, troseddau yw'r rhain sy'n ddarostyngedig i ddeddfwriaeth bresennol.  Dyma Wybodaeth gan Gymorth i Ddioddefwyr - Adrodd i'r Heddlu.  

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd