Beth yw gwyliwr?

Unigolion yw gwylwyr sy'n gweld digwyddiadau neu sefyllfaoedd sy'n effeithio ar bobl eraill a thrwy fod yn bresennol, efallai fod ganddynt gyfle i roi cymorth, gwneud dim byd neu gyfrannu at ymddygiad sy'n mynd rhagddo. 

Beth yw gwyliwr gweithredol? 

Mae gwyliwr gweithredol yn berson sy'n gweld sefyllfa ond sydd hefyd yn cymryd camau i siarad o blaid rhywun neu'n achub ar y cyfle i atal sefyllfa rhag gwaethygu neu'n ymyrryd â sefyllfa anodd pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny. 

Proses gwneud penderfyniad gwyliwr gweithredol 

Cyn i chi weithredu, mae angen i chi gymryd 4 cam ar gyfer ymyrryd:

1.       Sylwi ar y digwyddiad 
2.       Dehongli'r digwyddiad fel problem 
3.       Teimlo'n gyfrifol am ymdrin â hyn
4.       Meddu ar y sgiliau angenrheidiol i weithredu   

Pa strategaeth ymyrryd y gallaf ei defnyddio?

Ymyriadau UNIONGYRCHOL

Ymdrin â'r sefyllfa'n uniongyrchol 
·  Y dioddefwr – gofynnwch i'r person a ydy ef/hi'n iawn a sut y gallwch chi helpu 
 
· Yr ymosodwr – dywedwch wrth y person nad yw'n iawn dweud/gwneud beth mae'n ei wneud (cyhyd â bod hynny’n ddiogel) 
 
· Gwnewch hwn fel grŵp os gallwch chi. Byddwch yn gwrtais. Peidiwch â gwaethygu'r sefyllfa – cadwch eich pen a dywedwch pam mae rhywbeth wedi eich tramgwyddo chi. Dywedwch yn union beth sydd wedi digwydd, peidiwch â gor-ddweud. 

Ymyriadau TYNNU SYLW

Ceisiwch dynnu sylw y naill barti neu'r llall – unrhyw beth sy'n tynnu sylw rhywun ddigon i roi diwedd ar yr ymddygiad dilornus. 
· Torrwch ar draws, gan ddechrau sgwrs â'r ymosodwr er mwyn i’w darged posib  symud i ffwrdd neu ofyn i'ch ffrindiau ymyrryd. 
 
· Neu meddyliwch am syniad i dynnu'r dioddefwr allan o'r sefyllfa – dywedwch wrtho/wrthi fod yn rhaid iddo/iddi dderbyn galwad ffôn neu fod angen i chi siarad ag ef/hi; unrhyw esgus i symud y dioddefwr i rywle diogel. Fel arall, rhowch gynnig ar dynnu sylw neu ailgyfeirio'r sefyllfa e.e. drwy arllwys diod neu drwy ofyn am gyfeiriadau 

DIRPRWYO Ymyriadau

Gofynnwch am gymorth gan bobl eraill - Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus neu'n ddiogel i ymyrryd, dylech chi ddirprwyo'r ymyriad i rywun arall

·       Dywedwch wrth aelod o staff e.e. staff diogelwch, staff y bar, aelod o'r Brifysgol 
·       Gofynnwch i ffrind y dioddefwr neu'r ymosodwr i gamu i mewn 

Ymyriadau OEDI

Holwch a yw’r dioddefwr yn iawn ar ôl y digwyddiad

·       Os yw'r sefyllfa'n rhy beryglus i chi herio yn y fan a'r lle (megis os oes bygythiad o drais neu os oes gormod o ymosodwyr), dylech chi gerdded i ffwrdd. Arhoswch i'r sefyllfa ddod i ben ac yna gofyn i'r dioddefwr a ydy ef/hi'n iawn. Neu adroddwch amdani pan fyddwch chi'n teimlo'n ddiogel i wneud hynny. 

MEDDYLIWCH

Mae hi bob amser yn bwysig i chi ystyried eich diogelwch eich hun. Mae'n bwysig cofio, yn y bôn, mai'r ymosodwr ei hun yw'r unig berson sy'n gyfrifol am y digwyddiad.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd