Mae arweiniad y Ddyletswydd Prevent yn nodi bod rhaid i sefydliadau addysg uwch yn y DU roi sylw dyladwy i'r angen am atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i amddiffyn y rhyddid i lefaru a rhyddid academaidd ac i amddiffyn a diogelu ei myfyrwyr a'i staff rhag y risg o gael eu denu i derfysgaeth. Mae'r polisi hwn yn amlinellu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i atal myfyrwyr rhag cael eu rhwydo gan derfysgaeth. Wrth wneud hyn, rydym yn cydnabod y gellir cysylltu terfysgaeth ag amrywiaeth o ideolegau.

At ddibenion ein Polisi Prevent, diffinnir terfysgaeth fel defnyddio, neu fygwth defnyddio, trais at ddiben hyrwyddo achos gwleidyddol, crefyddol, hiliol neu ideolegol.

Radicaleiddio

Radicaleiddio yw'r broses sydd ar waith pan fydd rhywun yn mabwysiadu ideolegau gwleidyddol, cymdeithasol neu grefyddol eithafol, gan arwain yn aml at gefnogaeth ar gyfer eithafiaeth dreisgar neu derfysgaeth, neu gyfranogiad yn y gweithredoedd hyn.

Mae Prevent yn diogelu unigolion sy'n fwy agored i gael eu radicaleiddio, mewn ffordd debyg i'r prosesau diogelu sydd â'r nod o amddiffyn pobl rhag gangiau, camddefnyddio cyffuriau, camdriniaeth gorfforol a rhywiol.

Radicaleiddio yw'r broses sydd ar waith pan fydd rhywun yn dechrau mabwysiadu safbwyntiau eithafol a allai ei arwain at gefnogi ymddygiad niweidiol neu dreisgar neu hyd yn oed gymryd rhan yn y fath ymddygiad. Gall hyn ddigwydd wyneb yn wyneb ac ar-lein ac, ar y rhyngrwyd, mae'n haws nag erioed dod ar draws cynnwys eithafol neu gael eich targedu gan unigolion sy'n ceisio dylanwadu ar eraill.

Mae taith pawb yn wahanol. Nid oes un restr wirio sengl i ddweud wrthyn ni a yw rhywun yn cael ei radicaleiddio. Fodd bynnag, gall rhai arwyddion awgrymu bod rhywun mewn perygl:

  • Siarad lawer am ymdeimlad o anghyfiawnder a rhoi'r bai ar eraill am hyn
  • Mynegi dicter cryf neu gasineb tuag at grŵp penodol (er enghraifft, ar sail hil neu grefydd)
  • Dweud mai trais yw'r unig ffordd o ddatrys problem
  • Postio neu rannu safbwyntiau eithafol neu iaith casineb ar-lein

Os ydych chi'n poeni amdanoch chi eich hun neu am rywun arall, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael - ceisiwch gymorth drwy'r platfform hwn neu siaradwch ag aelod o'r staff gallwch ymddiried ynddo.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd