Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Cyfrifoldeb pawb yw diogelu. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr, ac mae'n cydnabod ei chyfrifoldebau diogelu ychwanegol i blant dan 18 oed ac oedolion sy'n wynebu risg.
Diffiniadau o ddiogelu:
- Plentyn/Unigolyn dan 18 oed: Unrhyw un dan 18 oed.
- Person ifanc: dyma derm a ddefnyddir i gyfeirio at unigolion 16 ac 17 oed, sy'n parhau i gael eu diffinio'n gyfreithiol fel plentyn ond y mae ganddynt fwy o hawliau cyfreithiol na'r rhai hynny dan 16 oed.
- Plentyn sy’n wynebu risg: Mae'r diffiniad o ‘blentyn sy'n wynebu risg’ yn golygu plentyn:
- sy'n profi neu'n wynebu risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed
- ac sydd ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny).
- Oedolyn sy'n wynebu risg (a elwir weithiau'n ‘oedolyn sy’n agored i niwed’): Mae'r diffiniad o ‘oedolyn sy'n wynebu risg’ yn golygu oedolyn:
- sy'n profi neu'n wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod
- sydd ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny), ac
- o ganlyniad i’r anghenion hynny, nad yw’n gallu ei amddiffyn ei hun rhag y gamdriniaeth neu’r esgeulustod neu’r risg ohonynt.
Gallai enghreifftiau gynnwys unigolion:
- sydd ag anableddau dysgu;
- sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia;
- sy’n unigolion hŷn sydd ag anghenion cymorth/gofal;
- sy'n fregus yn gorfforol neu sydd â salwch cronig;
- sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd;
- sy'n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
- sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig
Camdriniaeth
Mae camdriniaeth yn golygu cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol, yn emosiynol neu’n ariannol ac mae'n cynnwys camdriniaeth a geir mewn unrhyw leoliad, boed hynny mewn cartref preifat, mewn sefydliad neu unrhyw le arall.
- Mae camdriniaeth yn cynnwys cam-drin plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg.
- Gall camdriniaeth gael ei hachosi drwy niweidio, neu drwy fethu atal niwed, a gall gael ei chyflawni gan oedolion a/neu blant.
Esgeulustod
Ystyr esgeulustod yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant yr unigolyn (er enghraifft, amharu ar iechyd yr unigolyn neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn).
- Mae esgeulustod yn debygol o arwain at nam difrifol ar iechyd neu ddatblygiad unigolyn.