Mae gan yr holl fyfyrwyr yn y brifysgol, p’un a ydynt yn israddedig neu’n ôl-raddedig, yn astudio’n amser llawn neu’n rhan amser, yr hawl i deimlo’n ddiogel ac wedi’u cefnogi ar y campws.

Yn ôl Deddf Troseddau Rhywiol 2003, mae rhywun wedi cydsynio i weithred rywiol os bydd yn: 

·       cytuno drwy ddewis a phan fydd gan yr unigolyn 
·       y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. 

Os bydd rhywun yn dweud ‘na’ yn ymateb i unrhyw fath o weithred rywiol, nid yw’n cytuno i’r weithred. 

Ond, os na fydd rhywun yn dweud ‘na’ yn uchel, nid yw hynny’n golygu’n awtomatig ei fod yn cytuno i’r weithred chwaith. 

I gydsynio, mae’n rhaid bod: gennych chi’r rhyddi i wneud y dewis

Er mwyn i weithred rywiol fod yn gydsyniol, mae’n rhaid bod yr unigolyn yn rhydd i ddewis a yw am ymgymryd â’r weithred ai peidio. Mae rhyddid yn golygu peidio â chael eich gorfodi mewn unrhyw ffordd i gytuno i gael rhyw.

Os yw unrhyw fath o bwysau, cam-drin neu orfodaeth, boed hynny’n gorfforol, yn emosiynol neu’n seicolegol, yn cael ei ddefnyddio i orfodi rhywun i gael rhyw, yna mae’r person sy’n cael ei orfodi wedi colli ei ryddid i ddewis. Mewn sefyllfa o’r fath, efallai bydd rhywun yn cytuno i gael rhyw ond yn gwneud hyn oherwydd ofn.

Felly...hyd yn oed os yw rhywun wedi cytuno, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu ei fod yn cydsynio. Yn yr un modd, os na fydd yr unigolyn yn dweud ‘na’ nac yn brwydro, nid yw hyn yn golygu ei fod yn cytuno.

Y gallu... i ddewis 

Mae ‘gallu’ yn golygu bod y person yn gallu gwneud a chyfleu penderfyniad, deall y canlyniadau a gwybod bod ganddo ddewis. Os na all wneud hyn, nid yw’n gallu cydsynio.
  • Efallai nad oes gan rywun ddigon o allu i roi cydsyniad os yw wedi bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau.
  • Nid oes gan unigolyn y gallu i roi cydsyniad os yw’n cysgu neu’n anymwybodol.
  • Yn ôl y gyfraith, nid oes gan rywun o dan 16 oed y gallu i gydsynio i gael rhyw.
  • Efallai nad oes gan rywun y gallu i roi cydsyniad oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd meddwl.
  • Nid oes gan unigolyn y gallu i roi cydsyniad os yw dan bwysau, neu’n cael ei fwlio neu’n cael ei lywio i gytuno. 

Os nad ydych chi’n siŵr a yw cydsyniad wedi’i roi – dylech chi bob amser ofyn. Os ydych chi’n gweld neu’n amau nad yw rhywun yn hollol gyfforddus neu’n fodlon gyda’r hyn sy’n digwydd, dylech chi stopio. 

Rydych chi’n rhydd i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg ac mae gennych chi’r hawl i wneud hyn

Rydych chi’n rhydd i gydsynio i un fath o weithred rywiol ond gwrthod gweithred arall ac mae gennych chi’r hawl i wneud hyn. Er enghraifft, efallai eich bod chi’n cytuno ac yn hapus i gusanu rhywun, neu i rywun gyffwrdd â chi, ond rydych chi’n gwrthod rhyw treiddiol. Efallai eich bod chi’n cytuno i gael rhyw gyda chondom ond rydych chi’n gwrthod rhyw heb gondom.

Hyd yn oed os yw rhywun wedi cydsynio i gael rhyw ar un adeg neu fwy, nid yw hyn yn golygu ei fod wedi cytuno i gael rhyw bob amser.

Gellir tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod gweithred rywiol. Gall rhywun ddewis cymryd rhan mewn gweithred rywiol o’i wirfodd ac yna newid ei feddwl a stopio.

Beth yw cydsyniad?

Dyma rai enghreifftiau ymarferol o’r hyn sy’n gydsyniad a’r hyn nad yw’n gydsyniad.

Dyma gydsyniad:

·       Cytuno’n frwdfrydig ar lafar.
·       Siarad â’r person arall am yr hyn rydych chi ei eisiau a’r hyn nad ydych chi ei eisiau, a gwrando ar y person arall yn ei dro.
·       Gofalu am y person arall – er enghraifft, drwy ofyn ‘ydy hyn yn iawn?’, ‘wyt ti am i mi arafu?’ neu ‘wyt ti am stopio?’.
·       Parchu dewis rhywun arall os bydd yn dweud ‘na’. A pheidio byth â cheisio newid meddwl y person arall na rhoi pwysau arno.

 
* Diolch i Sefydliad Argyfwng Trais Cymru a Lloegr am beth o’r wybodaeth a gynhwysir yn yr erthygl hon.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd