Nid oes unrhyw fath o gamymddygiad rhywiol byth yn dderbyniol.
 
 Er bod camymddygiad rhywiol yn cynnwys amrywiaeth eang o ymddygiad amhriodol ac annymunol o natur rywiol, rydym yn deall y gall peth o’r iaith a ddefnyddir achosi dryswch, felly rydym wedi ymdrechu i egluro’r termau hyn yn fanylach isod.

Camymddygiad Rhywiol 
 
Mae camymddygiad rhywiol yn cynnwys amrywiaeth eang o ymddygiad amhriodol ac annymunol o natur rywiol ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill, y canlynol:
  • Ymosodiad rhywiol
  • Aflonyddu rhywiol
  • Trais rhywiol
  • Trais rhywiol rhwng partneriaid
  • Paratoi i bwrpas rhyw
  • Gorfodaeth neu fwlio gydag elfennau rhywiol
  • Gwahoddiadau a gofynion rhywiol
  • Sylwadau annymunol ac amhriodol
  • Cyfathrebiad di-eiriau
  • Meithrin awyrgylch annifyr
  • Addo adnoddau neu ddyrchafiad yn gyfnewid am ryw
  • Pornograffi dial
  • Ffilmio a thynnu lluniau o bobl heb eu cydsyniad
  • Dinoethi anweddus

Ymosodiad rhywiol
 
Mae ymosodiad rhywiol yn drosedd ac yn groes i bolisi’r Brifysgol. Mae person wedi cyflawni ymosodiad rhywiol os bydd yn cyffwrdd â pherson arall yn fwriadol ac mewn modd rhywiol a heb gydsyniad y person hwnnw.

Mae'n cynnwys yr holl gyswllt corfforol annymunol o natur rywiol ac mae'n amrywio o binsio, cofleidio, gafael a chusanu, i dreisio ac ymosodiad rhywiol sy'n cynnwys treiddiad heb gydsyniad.

Beth yw cydsyniad?

Dewis i gytuno yw cydsyniad, gan feddu ar y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw. Mae person yn rhydd i ddewis os na fyddai unrhyw beth drwg yn digwydd iddo pe byddai'n dweud 'na'. Mae 'gallu' yn golygu a oes gan rywun y gallu corfforol a/neu feddyliol i wneud dewis ac i ddeall canlyniadau'r dewis hwnnw.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen gymorth, "Beth yw Cydsyniad".

Aflonyddu rhywiol
 
Ystyr Aflonyddu Rhywiol yw ymddygiad a nodweddir gan sylwadau, ystumiau neu gynigion corfforol rhywiol annymunol ac amhriodol yn y gweithle neu sefyllfa broffesiynol neu gymdeithasol arall. Dyma'r math o ymddygiad a fyddai'n peri i berson rhesymol ddisgwyl iddo wneud i berson deimlo'n annifyr, dan fygythiad, wedi ei sarhau neu gywilyddio. Mae aflonyddu rhywiol yn effeithio ar bobl o bob rhywedd ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o weithredoedd a allai ddigwydd unwaith neu fel cyfres o ddigwyddiadau.
 
Nid yw'n berthnasol a oedd yr aflonyddwr yn ceisio ymddwyn yn ymosodol ai peidio. Y derbynnydd sy'n penderfynu pa ymddygiad sy'n dderbyniol. Gall digwyddiad untro neu ymddygiad parhaus fod yn aflonyddu.

Gall aflonyddu rhywiol amrywio o ymddygiad aflonyddus amlwg i ymddygiad mwy cynnil o safbwynt yr aflonyddwr neu'r derbynnydd. Yn aml, nid yw'r effaith yn cael ei theimlo na'i gweld ar unwaith. Efallai bydd yr effaith yn fwy amlwg i'r bobl sy'n gweld neu'n clywed yr hyn a ddigwyddodd i'r derbynnydd neu sy'n ceisio cynnig cymorth.
 
Gall aflonyddu rhywiol gynnwys y canlynol, ymysg pethau eraill: 
  • Gweiddi neu chwibanu mewn ffordd awgrymog
  • Stelcio
  • Cyffwrdd â rhywun yn gorfforol mewn ffordd ddiangen ac annymunol
  • Sylw rhywiol annymunol
  • Jôcs a sylwadau rhywiol
  • Addo gwobrwyon yn gyfnewid am ffafrau rhywiol mewn modd annymunol ac amhriodol
  • Rhoi anrhegion personol annerbyniol
  • Cilwenu a syllu
  • Sylwadau difrïol 
  • Cwestiynau annerbyniol am fywyd preifat person e.e. bywyd rhywiol, perthnasoedd neu rywioldeb
  • Gwneud cynigion rhywiol digroeso
  • Anfon e-byst, negeseuon testun, nodiadau, negeseuon neu bostiadau cignoeth neu'n awgrymog mewn ffordd rywiol ar wefan rhwydweithio cymdeithasol
  • Cynigion rhywiol a fflyrtian 
  • Sylwadau digroeso am gorff neu ddillad person
  • Gwneud i rywun deimlo'n anghyfforddus drwy ddangos neu rannu deunyddiau rhywiol 
 
Nid yw aflonyddu rhywiol o reidrwydd yn digwydd wyneb yn wyneb ac mae'n gallu digwydd ar ffurf e-byst, delweddau (megis lluniau o natur rywiol ar waliau mewn amgylchedd a rennir), ar y cyfryngau cymdeithasol, dros y ffôn, negeseuon testun a cham-drin rhywiol sy'n seiliedig ar ddelweddau, megis pornograffi dial a thynnu lluniau o afl person heb ei gysyniad.
 
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi dioddef o gamymddygiad rhywiol, gallai fod yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i deimlo. Nid eich bai chi yw'r hyn sydd wedi digwydd. Eich dewis chi yw beth i'w wneud nesaf. Rydym yma i'ch cefnogi chi.
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd