Os ydych chi'n poeni y bydd rhywun yn gallu olrhain eich defnydd o'r dudalen we hon neu wefannau eraill, cliciwch yma i ddysgu sut i guddio eich presenoldeb ar-lein

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu profiad cadarnhaol a champws diogel i bawb.  Rydym yn credu nad yw cam-drin domestig byth yn dderbyniol ac mae gan y Brifysgol agwedd dim goddefgarwch at drais a chamdriniaeth. Mae camdriniaeth ddomestig yn niweidio unigolion a chymunedau, ac mae datgelu’r ymddygiad hwn yn galluogi’r Brifysgol a'r Heddlu i’w ddeall yn well ac ymdrin â'r hyn sy'n digwydd.

Efallai fod peth o'r derminoleg a'r cysyniadau'n teimlo'n anghyfarwydd i chi, oherwydd bod llawer o stereoteipiau, mythau a chamsyniadau ynghylch cam-drin domestig. Dyna pam rydym yn sôn am gam-drin domestig yn y Brifysgol, ond rydym yn defnyddio'r termau cam-drin mewn perthynas/trais domestig hefyd.

Diffiniad o Gam-drin Domestig

Diffinnir Cam-Drin Domestig, sydd hefyd yn cael ei adnabod yn aml fel trais domestig a cham-drin mewn perthynas, fel digwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheoli, gorfodaethol, bygythiol, diraddiol a threisgar. Gall gynnwys trais rhywiol hefyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, partner neu gyn-bartner sy'n cyflawni hyn ond gall gael ei gyflawni gan aelod o'r teulu neu ofalwr hefyd. Mae'n gyffredin iawn. Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, ni waeth beth yw eich rhyw, eich oedran, eich hil neu’ch rhywioldeb. Nid oes angen i'r person sy'n cael ei gam-drin a'r un sy'n gyfrifol am y cam-drin fyw yn yr un aelwyd.

Gall cam-drin domestig gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

Gall fod yn ddigwyddiad unigol neu'n batrwm o ddigwyddiadau, ond mae bob amser yn cynnwys un person sydd â rheolaeth a phŵer dros berson arall.

Beth yw Rheolaeth drwy Orfodaeth?

Mae ymddygiad rheoli'n amrywiaeth o weithredoedd sydd â'r nod o wneud i rywun deimlo'n israddol a/neu i fod yn ddibynnol drwy ei gadw draw o ffynonellau cymorth, manteisio ar ei adnoddau a'i alluoedd er elw personol gan ei amddifadu o'r adnoddau i fod yn annibynnol, yn wydn ac i ddianc, a rheoleiddio ei ymddygiad beunyddiol.

Mae ymddygiad gorfodaethol yn weithred, neu'n batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, bychanu a brawychu neu gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi, codi ofn, ynysu neu greu dibyniaeth.

Mae cysylltiadau a ffactorau cyffredin rhwng trais domestig a chontinwwm trais rhywiol.

Beth yw Cam-drin ar sail 'Anrhydedd'? 

Mae cam-drin ar sail 'anrhydedd' yn ffurf ar gamdriniaeth ddomestig a ystyrir yn aml yn broblem 'ddiwylliannol', 'draddodiadol' neu 'grefyddol'. Gall effeithio ar bobl o bob oedran, ond yn aml mae'n dechrau'n gynnar yn y cartref teuluol.

Gall arwain at fath o reolaeth dan orfodaeth sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn, yn seiliedig ar ddisgwyliadau am ymddygiadau derbyniol ac annerbyniol. Mae rheolaeth yn aml yn datblygu heb drais amlwg yn erbyn y dioddefwr. Er enghraifft, gall aelodau'r teulu fygwth lladd eu hunain, gallant anwybyddu neu ddiarddel y dioddefwr.

Yn aml, partneriaid, cyn-bartneriaid neu aelodau'r teulu sy'n gwneud hyn.

Nod y math hwn o gamdriniaeth yw ynysu rhywun a gwneud iddi/iddo deimlo'n israddol a/neu'n ddibynnol ar y camdriniwr mewn rhyw ffordd.  Gallant wneud i'r dioddefwyr deimlo eu bod ar fai am y gamdriniaeth ac nad ydynt yn gallu gadael, sy'n golygu y bydd, ar gyfartaledd, 35 achos o gamdriniaeth cyn y bydd rhywun yn rhoi gwybod am y camdriniwr.  Byddem yn annog myfyrwyr i deimlo eu bod yn gallu ceisio cymorth gan y Brifysgol cyn gynted â phosib.

Os ydych chi mewn perthynas sy'n teimlo'n gamdriniol, rydym yn eich annog i ystyried rhoi gwybod i'r Brifysgol am hyn. Does dim gwahaniaeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn y berthynas. Gall fod yn berthynas newydd, ond nid hyd y berthynas sy'n bwysig ond yr hyn sy'n digwydd yn y berthynas.

 

 Os nad ydych chi'n siŵr a yw'r hyn sy'n digwydd yn dderbyniol neu beidio, gall y ddolen hon i arwyddion rhybudd fod yn ddefnyddiol: Arwyddion Rhybudd | Equation

Mae camdriniaeth ddomestig yn cael ei phrofi'n anghymesur gan fenywod a gallwch ddarllen mwy am rywedd a cham-drin domestig.

Does dim gwahaniaeth a yw'r person sy'n gwneud hyn i chi'n fyfyriwr neu beidio, mae Prifysgol Abertawe yma i'ch cefnogi, a bydd yn eich helpu i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol os ydych yn dewis gwneud hynny. Ni ddylai neb orfod derbyn trais neu reolaeth yn eu bywydau ac nid chi sydd ar fai am yr hyn sy'n digwydd i chi.

Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd