Diogelu
Ymateb i bryderon a honiadau a godwyd
Ymateb cychwynnol:
a) Pan adroddir am bryder neu honiad, bydd Swyddog Diogelu Dynodedig (DSO) hyfforddedig yn adolygu'r wybodaeth ac yn penderfynu a yw'r nodweddion yr adroddir amdanynt yn arwyddion o gam-drin neu esgeulustod gwirioneddol neu bosib. Gellir gofyn am ragor o wybodaeth os bydd ei hangen i gefnogi'r asesiad hwn, a threfnir cynadleddau achos yn ôl yr angen. Bydd yr ymateb cychwynnol hefyd yn ystyried darparu cymorth perthnasol i'r person yr ystyrir ei fod mewn perygl o gamdriniaeth ac, os yw anghenion cymorth yn amlwg, i'r cyflawnwr honedig os yw'n aelod o gymuned y Brifysgol. Ar y cyd â'r Prif Swyddog Diogelu, bydd y DSO yn penderfynu a ddylid cyfeirio'r pryder i'r awdurdodau diogelu ac, os yn ofynnol, gwneir atgyfeiriad allanol. Dilynir yr holl gyngor dilynol gan awdurdodau statudol.
b) Adolygu'r pryderon a adroddwyd: Bydd y Prif Swyddog Diogelu yn ceisio nodi cysylltiadau posibl rhwng pryderon a honiadau a adroddwyd i'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod darlun llawn o ddigwyddiadau yn cael ei gydnabod. Efallai bydd yr asesiad hwn hefyd yn arwain at atgyfeiriad i awdurdodau statudol os caiff pryderon 'lefel isel' cronnus neu batrymau ymddygiad sy'n peri pryder eu nodi.
c) Honiadau am aelodau staff: Bydd y Prif Swyddog Diogelu, mewn ymgynghoriad â Swyddog Diogelu Dynodedig Adnoddau Dynol, yn sicrhau bod yr holl bryderon a honiadau a wneir yn erbyn aelodaustaff y Brifysgol (gan gynnwys gwirfoddolwyr ac aelodau'r Cyngor) yn cael eu cyfeirio'n allanol i'r Swyddog Awdurdod Lleol Dynodedig, fel sy'n ofynnol gan ganllawiau statudol.
ch) Gwahardd staff neu fyfyrwyr dros dro yn ystod ymchwiliadau: Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg (i fyfyrwyr) yn asesu a fydd angen rhoi gwaharddiad dros dro neu weithredodd rhagofalus eraill ar waith pan fydd ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan awdurdodau diogelu allanol, a bydd yn cydweithio â’r Prif Swyddog Diogelu fel y bo'n briodol. Caiff unrhyw benderfyniad i wahardd aelod staff dros dro (neu i roi gweithredoedd rhagofalus eraill ar waith) ei asesu yn unol ag Adran V 11.3 ordinhad Ymddygiad a Gweithrediadau Disgyblu. Bydd cyngor gan awdurdodau diogelu allanol yn dylanwadu ar y penderfyniadau hyn.
d) Camau Disgyblu. Bydd y Brifysgol yn dilyn gweithdrefnau disgyblu perthnasol ar gyfer unrhyw fyfyriwr neu aelod staff sydd wedi cyflawni camdriniaeth neu esgeulustod yn ystod cyfnod ei gyflogaeth neu ei astudiaethau yn y Brifysgol. Gall hyn arwain at ddiswyddo staff neu ddiarddel myfyriwr dan Reoliadau Myfyrwyr y Brifysgol. Caiff unrhyw benderfyniad i gyflwyno gweithdrefnau disgyblu ar gyfer aelodau staff ei asesu yn unol ag Adran III, 11.3 ordinhad Ymddygiad a Gweithdrefnau Disgyblu.
dd) Geirdaon i staff neu fyfyrwyr sydd wedi cael eu disgyblu neu eu herlyn am droseddau diogelu: Caiff ceisiadau am eirda ar gyfer aelod staff sydd wedi cael ei ddisgyblu neu ei erlyn am gamdriniaeth neu esgeulustod yn ystod cyfnod ei gyflogaeth eu cyfeirio at Gyfarwyddiaeth Adnoddau Dynol ym mhob achos. Yn debyg, bydd ceisiadau am eirda ar gyfer myfyrwyr mewn amgylchiadau tebyg yn cael eu cyfeirio at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg, Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr neu Gyfarwyddwr Gweithrediadau'r Gyfadran berthnasol.
e) Ymdrin ag adroddiadau maleisus: Gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw un sydd wedi rhannu pryder neu wneud honiad mewn ffordd faleisus, yn wamal, yn anonest, er budd personol neu fel ffordd o ddial ar rywun. Ni fyddai hyn yn berthnasol i unigolion sydd wedi codi pryder diffuant sydd yn ddi-sail. Caiff unrhyw benderfyniad i gyflwyno gweithdrefnau disgyblu ar gyfer aelodau staff ei asesu yn unol ag Adran III, 11.3 ordinhad Ymddygiad a Gweithdrefnau Disgyblu.
Prevent a Radicaleiddio
Y Broses Rhoi Gwybod am Bryder (Siart Llif Atodiad 3)
Os oes gan fyfyriwr neu aelod staff bryderon bod unigolyn yn mynegi barn eithafol neu y gall gael ei radicaleiddio i eithafiaeth, dylai'r pryderon hyn gael eu rhannu â'r Prif Swyddog Diogelu neu, yn absenoldeb yr unigolyn hwnnw, y DSO drwy adrodd a chymorth.
Bydd y Prif Swyddog Diogelu neu'r DSO yn ymchwilio i'r mater, gan geisio casglu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol a fydd yn galluogi'r pryderon i gael eu hystyried yn llawn.
Bydd y Prif Swyddog Diogelu neu'r DCO yn ystyried y dystiolaeth berthnasol gan ei thrafod ag aelodau eraill o'r Brifysgol, pan fo hynny'n briodol, drwy gynnull Panel Atgyfeirio'r Ddyletswydd Prevent.
Gwneir penderfyniad ynghylch difrifoldeb yr achos. Mae tri chanlyniad yn debygol ar yr adeg hon.
(i) Nid oes angen gweithredu pellach. Yn yr achos hwn, bydd y Prif Swyddog Diogelu yn cadw cofnod cyfrinachol o’r achos a byddai'r Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg (Arweinydd Prevent) yn cael ei hysbysu bod ymchwiliad wedi cael ei gynnal i achos ond nad oedd angen gweithredu ymhellach.
(ii) Mae sylwedd i'r achos ond gweithredu mewnol yn unig sy'n ofynnol ar y cam hwn. Byddai union natur yr ymyriad gofynnol yn cael ei phennu drwy drafodaeth rhwng aelodau staff perthnasol. Cytunir ar gamau gweithredu a dyddiad adolygu. Yn yr adolygiad, byddai'r achos yn cael ei asesu eto a'r camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd. Rhagwelir, yn y rhan fwyaf o achosion, y byddai'r ymyriad yn gefnogol ei natur ac o safbwynt diogelu, ac y byddai’n rhan o gylch gorchwyl Bywyd Myfyrwyr neu AD yn achos staff. Fel uchod, bydd y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg a'r Cofrestrydd yn cael eu hysbysu'n llawn.
(iii) Mae'n ofynnol atgyfeirio'r achos at sylw'r heddlu oherwydd pryderon difrifol ac uniongyrchol ynghylch diogelwch y myfyriwr neu eraill a/neu ceir tystiolaeth i awgrymu y gellir cyflawni trosedd neu fod trosedd wedi'i chyflawni. Byddai'r penderfyniad hwn yn cael ei wneud yn yr amgylchiadau mwyaf difrifol yn unig a chan y Prif Swyddog Diogelu, y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg neu'r Cofrestrydd yn unig, neu gan rywun ag awdurdod wedi'i ddirprwyo yn eu habsenoldeb.