Mae mathau gwahanol o gamdriniaeth, ond mae bob amser yn ymwneud â chael pŵer a rheolaeth dros rywun arall.  Mae'n bwysig bod pawb yn gallu adnabod arwyddion cam-drin domestig.

Gall cam-drin domestig gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

· Rheolaeth drwy orfodaeth (patrwm o fygythiadau, diraddio, ynysu a rheoli drwy ddefnyddio neu fygwth defnyddio trais corfforol neu rywiol)

· Cam-drin seicolegol a/neu emosiynol

· Trais corfforol neu fygythiadau trais 

· Cam-drin rhywiol neu drais rhywiol

· Cam-drin ariannol neu economaidd

· Aflonyddu a stelcio

· Cam-drin Ar-lein neu Ddigidol

· Gall hyn gynnwys priodas dan orfod, yr hyn a elwir yn drais "ar sail anrhydedd" a chamdriniaeth ddefodol.

Isod ceir rhestr o arwyddion gwahanol o gam-drin domestig. Os ydych yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau canlynol, efallai fod gennych bartner neu aelod o'r teulu camdriniol. 

Cam-drin Emosiynol 

A yw'r person hwn yn: 

· Eich bychanu?

· Gwneud galwadau afresymol i gael eich sylw?

· Eich cyhuddo chi o fflyrtio neu gael carwriaeth? 

· Rhoi'r bai arnoch chi am y gamdriniaeth neu'r dadleuon?

· Eich ynysu oddi wrth eich ffrindiau a'ch teulu?

· Eich atal rhag mynd i'r brifysgol neu i'r gwaith?

· Gwadu bod y gamdriniaeth yn digwydd neu'n ei dibrisio?

· Dweud wrthych beth i'w wisgo, pwy i'w weld, ble i fynd a beth i'w feddwl?

Cam-drin Seicolegol:

Gall y person sy'n eich cam-drin eich niweidio mewn nifer o ffyrdd. A yw’n gwneud y canlynol:

· Dinistrio pethau sy'n eiddo i chi? 

· Sefyll drosoch chi neu yn eich gofod personol?

· Darllen eich e-byst, eich negeseuon testun neu’ch llythyron?

· Bygwth eich brifo neu eich lladd chi, eich hun neu'r plant?

· Gweiddi neu'n rhegi tuag atoch? 

· Eich anwybyddu neu'n eich ynysu?

· Galw enwau arnoch?

· Eich eithrio o ddigwyddiadau neu weithgareddau ystyrlon?

Cam-drin Corfforol

A yw'r person hwn yn:

· Eich slapio neu eich bwrw chi?

· Eich tagu chi neu eich dal i lawr?

· Eich gwthio chi?

· Eich llosgi chi?

· Eich brathu chi neu'ch cicio chi? 

· Taflu pethau tuag atoch?

Cam-drin Ariannol

A yw'r person hwn yn:

· Rheoli sut mae arian yn cael ei wario?

· Mynnu eich bod yn rhan o weithgarwch twyllodrus?

· Rhoi "lwfans" i chi?

· Cronni dyledion enfawr ar gyfrifon ar y cyd heb eich caniatâd neu weithredu mewn ffordd sy'n arwain atoch yn cael sgoriau credyd gwael?

· Atal mynediad uniongyrchol i gyfrifon banc, benthyciadau neu grantiau?

· Gwario arian arno ei hun ond ddim yn gadael i chi wneud yr un peth?

· Rhoi anrhegion neu dalu am bethau a disgwyl rhywbeth yn ôl?

· Eich gwahardd rhag gweithio? 

Cam-drin Rhywiol

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un, boed yn ddyn neu'n fenyw. A yw'r person hwn yn:

· Eich cyffwrdd mewn ffordd nad ydych am gael eich cyffwrdd?

· Rhoi pwysau arnoch i gael rhyw anniogel - er enghraifft, peidio â defnyddio condom?

· Rhoi dolur i chi yn ystod cyfathrach rywiol?

· Rhoi pwysau arnoch i gael rhyw (gan gynnwys gyda phobl eraill)?

· Gwneud galwadau rhywiol dieisiau?

Cofiwch: Does byth esgus dros gam-drin mewn perthynas. Nid yw dicter, cenfigen, alcohol neu eisiau amddiffyn y person arall - yn esgusodion. Gall trais neu gamdriniaeth ddomestig ddigwydd i unrhyw un gan unrhyw un. Dysgwch i adnabod yr arwyddion a ble i gael cymorth.

Os ydych yn poeni eich bod chi neu ffrind yn wynebu cam-drin domestig, efallai bydd yr wybodaeth gan IDAS ar red flags and warning signs o gymorth.

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd